Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae'n bleser gan Amgueddfa Cymru gyhoeddi'r artistiaid sydd wedi cyrraedd rhestr fer y comisiwn celf gyhoeddus newydd cyffrous yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau heddiw ar Ddiwrnod Rhyngwladol yr Artistiaid.
Yn dilyn galwad agored i artistiaid Cymreig yn gynharach eleni, derbyniodd yr amgueddfa 30 o gyflwyniadau rhagorol ac amrywiol – bob un ohonynt wedi'u hysbrydoli gan y môr a straeon cyfoethog arfordir Cymru.
Ar ôl pwyso a mesur, dewisodd y panel ddau artist y mae eu cysyniadau yn sefyll allan oherwydd eu creadigrwydd, eu gwreiddioldeb a sut maen nhw'n asio â gweledigaeth newydd yr amgueddfa i rannu ac archwilio perthynas Cymru â'r môr.
Bydd yr artistiaid hyn nawr yn cael eu gwahodd i'r amgueddfa i archwilio eu cysyniadau ymhellach a gweld sut y gallai eu gweithiau weddnewid Neuadd Weston – mynedfa'r Amgueddfa – yn fan croeso trawiadol ac ystyrlon i ymwelwyr.
Bydd yr artist buddugol yn derbyn y comisiwn, gyda'r bwriad o osod y gwaith terfynol ym mis Chwefror 2026.
Bydd y gwaith celf wrth galon yr amgueddfa, ac yn rhoi argraff bwerus i'n hymwelwyr ar ddechrau eu hymweliad o gysylltiad parhaol Cymru â'r môr.
Meddai Dr Nicole Deufel, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau:
"Roedd ansawdd a dychymyg y ceisiadau yn anhygoel. Cafodd gwahanol ffyrdd yr artistiaid o ymgysylltu â'n gweledigaeth argraff ddofn arnom, ac mae'r ceisiadau ar y rhestr fer yn ymateb yn wych i'n Mynedfa ac i gysylltiad Cymru â'r môr."
Mae'r comisiwn yn rhan o waith ailddatblygu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ogystal ag ymrwymiad parhaus Amgueddfa Cymru i gefnogi celf gyfoes Cymru a dathlu lleisiau artistiaid sy'n dehongli gorffennol, presennol a dyfodol Cymru drwy waith newydd a beiddgar.
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Rydym yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan gasgliadau, ac rydym yn elusen gofrestredig. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, ein cymunedau ac yn ddigidol.
Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
www.amgueddfa.cymru