Datganiadau i'r Wasg
Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru yn cyrraedd carreg filltir newydd
Dyddiad:
2025-11-04Blwyddyn gwahanol iawn i Amgueddfa Lechi Cymru
Helen Goddard ac Elen Roberts o Amgueddfa Lechi Cymru gyda Eddie Williams, MPH construction
Ail ddatblygiad Amgueddfa Lechi Cymru graffeg gweledol o'r ardal chwarae newydd
Golygfa o'r Iard gefn a'r caffi a chanolfan addysg arfaethedig
Chwarelwyr Llechi Amgueddfa Lechi Cymru yn Castell Penrhyn
Y Ganolfan Gasgliadau, Llandygai
Flwyddyn ers cau Amgueddfa Lechi Cymru dros dro, mae’r gwaith o’i hailddatblygu wedi cyrraedd carreg filltir newydd wrth i’r adeilad gael ei drosglwyddo’n ffurfiol i ofal partneriaid adeiladu MPH Construction.
Mae hwn yn gam allweddol yn y gwaith ailddatblygu a fydd yn rhoi bywyd newydd i’r amgueddfa boblogaidd ac yn diogelu’r adeiladau hanesyddol trawiadol a’r casgliadau sydd o bwysigrwydd byd-eang er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu eu profi a mwynhau stori anhygoel llechi.
Yn ôl Helen Goddard, Rheolwr Prosiect Amgueddfa Lechi Cymru:
“Mae hwn yn gyfnod arwyddocaol i’r prosiect. Mae cymaint wedi digwydd ers i ni gau’r amgueddfa ym mis Tachwedd 2024, gan gynnwys symud yr holl gasgliadau o’r safle i’n canolfan gasgliadau newydd, rhaglen o waith ymgysylltu yn y gymuned leol a gwaith manwl i ddatblygu ein cynlluniau adeiladu. Mae’r garreg filltir hon bellach yn golygu y byddwn yn dechrau ar y gwaith adeiladu ar y safle – gwaith a fydd yn sicrhau y bydd y safle hanesyddol hwn yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.”
Y cam cyntaf fydd dymchwel adeiladau’r siop a’r caffi, a gafodd eu hadeiladu pan gafodd yr amgueddfa ei hailddatblygu yn 1998, ac sydd wedi dyddio erbyn hyn.
“Cafodd yr adeiladau yma eu hychwanegu at yr amgueddfa yn 1998, ond dydyn nhw ddim yn addas i’w diben erbyn hyn,” meddai Helen. “Bydd yr adeilad newydd a godir yn lle’r siop yn adeilad hygyrch wedi’i ddylunio mewn ffordd sy’n ystyried y defnyddwyr yn well, a bydd yn gwasanaethu ymwelwyr yn well wrth iddyn nhw ddod i mewn i’r amgueddfa.
“Un o ddatblygiadau mwyaf cyffrous y prosiect, ym mhen deheuol y safle, fydd creu caffi, man dysgu a chanolfan gymunedol newydd sbon. Bydd yr adeilad hardd hwn yn golygu bod gennym lawer mwy o le ar gyfer defnydd cymunedol ac i gynnal digwyddiadau, a bydd yn creu profiad gwych i ymwelwyr. Bydd y llawr cyntaf yn cynnig cyfleusterau hygyrch a modern ar gyfer dysgu gydol oes am ddiwylliant a hanes y diwydiant llechi, sydd o bwysigrwydd byd-eang, a sut y datblygodd yng Nghymru.”
Bydd y gwaith ailddatblygu yn darparu cyfleusterau newydd i ymwelwyr yn ogystal â dehongliad llawer gwell o stori llechi, a fydd yn trawsnewid y safle i fod yn lleoliad porth i Safle Treftadaeth y Byd. Bydd rhan helaeth o’r gwaith yn canolbwyntio ar brosiectau cadwraeth allweddol sy’n rhoi sylw i rai o’r pethau y mae angen eu gwneud yn yr adeilad ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys atgyweirio a chadw fframiau ffenestri cywrain chwarel Dinorwig yn yr amgueddfa – ac mewn rhai achosion, ailgastio’r fframiau metel unigryw, yn ogystal ag atgyweirio ac ailbwyntio waliau sy’n bochio yn yr amgueddfa a diogelu seilwaith yr adeilad ei hun.
Mae’r prosiect gwerth £25 miliwn yn cael ei ariannu drwy grant £12 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ogystal â chymorth gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o’r prosiect Llewyrch o'r Llechi, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston ac arianwyr eraill.
Dywedodd Andy Roberts, Cyfarwyddwr Adeiladu MPH:
“Rydym yn falch o ddechrau gweithio ar ailddatblygiad Amgueddfa Lechi Cymru - rhan allweddol o dreftadaeth ddiwydiannol Cymru sydd wedi llunio llawer o gymunedau a thirweddau ledled y wlad. Yn dilyn trosglwyddo’r safle, mae ein tîm wedi ymrwymo i gadw cymeriad unigryw’r amgueddfa wrth wella ei hygyrchedd, ei chynaliadwyedd, a’i phrofiad cyffredinol i ymwelwyr. Gyda’n tîm eisoes ar y safle, ac mewn cydweithrediad agos ag Amgueddfa Cymru, eu tîm prosiect a’r gymuned leol, rydym yn gyffrous i helpu i ddechrau’r bennod nesaf yn stori’r Amgueddfa – gan barchu’r gorffennol, ac adeiladu ar gyfer y dyfodol.”
Tra bo gwaith adeiladu’n mynd rhagddo ar y safle, mae staff yr amgueddfa wedi cael eu hadleoli i leoliadau allweddol sy’n ganolog i’r dirwedd lechi er mwyn cadw’r stori’n fyw yn y gymuned. Mae staff y siop a’r caffi bellach yn adeilad cyfagos Ysbyty’r Chwarel, a adeiladwyd er mwyn darparu gofal a thriniaeth i’r chwarelwyr. Mae chwarelwyr yr amgueddfa ei hun wedi symud i Gastell Penrhyn, lle maent yn hollti llechi, am y tro cyntaf erioed, yn y lleoliad a oedd ar un adeg yn gartref i un o berchnogion y chwarel, ac un o’r dynion cyfoethocaf yn y byd. Yn y cyfamser, mae gof yr amgueddfa’n gweithio gyda gof ifanc arall yn Crefft Migldi Magldi yn y Cei Llechi yng Nghaernarfon.
Gan gydnabod ei gwreiddiau diwydiannol, mae’r amgueddfa hefyd wedi prynu’r Offis Fawr – swyddfa wreiddiol Chwarel Lechi Dinorwig – sydd wedi’i lleoli ychydig yn uwch i fyny na’r amgueddfa. Mae’r cyswllt hanesyddol hwn yn cadarnhau ymrwymiad yr amgueddfa i gadw a dehongli gwaddol llechi’r ardal gan greu cysylltiad unigryw â’r gorffennol.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ailddatblygu a rhaglenni cyfredol yr amgueddfa, ewch i www.amgueddfa.cymru/llechi
-DIWEDD-
Nodiadau i Olygyddion
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: julie.williams@museumwales.ac.uk neu rachel.bowyer@museumwales.ac.uk
Amgueddfa Cymru: Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac mae yma i bawb gael ei defnyddio. Rydym yn elusen ac yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol wedi’u lleoli ar hyd a lled y wlad. Ein nod yw tynnu sylw’r byd at ddiwylliant Cymru ac ysbrydoli pawb i ddysgu a mwynhau eu hunain drwy Gasgliad Cenedlaethol Cymru. Mae ein croeso yn ddi-dâl diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei estyn i bobl o bob cymuned. Dilynwch y saith amgueddfa sy’n rhan o Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Chwaraewch eich rhan yn stori Cymru: drwy ymweld, gwirfoddoli, ymuno, cyfrannu. www.amgueddfa.cymru
MPH: Mae MPH Construction yn gwmni adeiladu sefydledig o Gymru gyda dros 50 mlynedd o brofiad o ddarparu gwasanaethau adeiladu o ansawdd uchel ledled Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr. Rydym yn arbenigo yn y sectorau rheilffyrdd, treftadaeth, gofal iechyd, addysg, lletygarwch, a diwydiannol — gan gynnig ystod lawn o wasanaethau, o gynnal a chadw adeiladau a gwaith bach i adeiladau newydd ac adnewyddiadau llawn. Mae ein tîm medrus a gwybodus yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod pob prosiect yn cael ei gyflawni gyda chywirdeb, gofal a phroffesiynoldeb. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gyda gonestrwydd ac yn ymdrechu i adael effaith gadarnhaol, barhaol drwy bob prosiect. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.mphconstruction.co.uk