Datganiadau i'r Wasg
Arddangosfa fawr o yrfa Gwen John i agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Dyddiad:
2025-11-18Amgueddfa Cymru'n cyflwyno arddangosfa i ddathlu cyfraniad un o artistiaid modern mwyaf Cymru, 150 mlynedd ers ei geni
7 Chwefror - 28 Mehefin 2026
Tocynnau ar werth o 18 Tachwedd
Graffeg yn cynnwys The Pilgrim by Gwen John. Credyd ffotograff - Yale Center for British Art, Paul Mellon Collection
Bydd arddangosfa nodedig o waith Gwen John, un o artistiaid modern mwyaf Cymru, yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 7 Chwefror 2026, cyn teithio'n rhyngwladol. Gallwch chi archebu eich tocynnau nawr ar gyfer Gwen John: Hardd a Hynod – y casgliad mwyaf cyflawn o waith yr artist mewn 40 mlynedd a mwy.
Prynodd Amgueddfa Cymru ei gwaith cyntaf gan Gwen John, Merch mewn Ffrog Las, am £20 yn 1935, prin bedair mlynedd cyn iddi farw. Erbyn heddiw mae'n gartref i'r casgliad cyhoeddus mwyaf yn y byd o'i gwaith.
Mae'r arddangosfa'n casglu ynghyd baentiadau olew o gasgliadau cyhoeddus a phreifat ledled y DU a'r UDA, yn ogystal â gweithiau ar bapur o'i stiwdio sydd prin wedi'u harddangos. O dirluniau wedi'u braslunio'n gynnil i astudiaethau byrfyfyr o bobl a bywyd llonydd lliwgar, mae'r gweithiau pensil a dyfrlliw llai adnabyddus hyn yn datgelu uchelgais artistig Gwen John yn llawn.
Bydd 200 a mwy o baentiadau, darluniau, dyfrlluniau, llyfrau braslunio, llythyrau, a deunydd archifol yn cael eu dangos, yn ogystal â benthyciadau o sefydliadau fel y Metropolitan Museum of Art, Efrog Newydd, Museum of Modern Art, Efrog Newydd, a'r Tate.
Gyda chefnogaeth hael wedi'i sicrhau gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, bydd Gwen John: Hardd a Hynod yn edrych o'r newydd ar ei gwaddol artistig ac yn codi'r llen ar fywyd artist enwog chafodd byth gydnabyddiaeth deilwng yn ystod ei hoes.
Ganwyd Gwen yn Hwlffordd, Sir Benfro yn 1876. Fe astudiodd yn Ysgol Gelf Slade yn Llundain, yn un o'r genhedlaeth gyntaf o fenywod i dderbyn addysg gelfyddydol ffurfio. Symudodd i Baris yn ddiweddarach, gan ddod yn rhan o gymuned artistig fywiog y ddinas, a thorri'i chwys ei hun mewn maes llawn dynion. Yn ei phortreadau a'i hystafelloedd cynnil, ei phaled tawel a'i harddull fyfyrgar yn hollol fe glywon lais modernaidd tawel, ond radical, sy'n wahanol iawn i'w chyfoedion.
Yn ei nodiadau preifat roedd Gwen yn gweld ei hun fel artist allai 'ddirnad harddwch hynod'. Byddai hi'n astudio'r byd yn ofalus, ac yn aml yn ailbaentio'r un testun droeon mewn ffyrdd gwahanol. Bydd yr arddangosfa yn rhychwantu ei gyrfa gyfan, o'r darluniau cynnar yng Nghymru i'r paentiadau diweddarach a ysbrydolwyd gan ei ffydd, moderniaeth Ffrengig, a chymuned Meudon, y cwr o Baris ddaeth yn gartref iddi.
Ganrif a hanner ers ei geni, mae dylanwad greadigol Gwen John yn parhau. Mae'r dylunydd Jonathan Anderson yn gasglwr sy'n cydnabod ei phaled a'i dyfnder emosiynol ar ei gasgliadau. Bydd aestheteg dawel y dylunydd Phoebe Philo yn cael ei chymharu'n gyson i'w harddull gynnil, ac mae'r artist Celia Paul wedi myfyrio'n agored ar ddylanwad Gwen yn ei llyfr Letters to Gwen John. Mae'r Manic Street Preachers wedi tynnu ar ei bywyd a'i dylanwad yn eu cerddoriaeth (The Secret He Had Missed), a'r ffotograffydd Laura Pannack yn cyfri artistiaid benywaidd dechrau'r 20fed ganrif, gan gynnwys Gwen, fel dylanwad allweddol ar ei phaled a'i dull tawel, gofalus o greu portreadau.
Ymhlith uchafbwyntiau'r arddangosfa mae:
- Cyfoeth o ddarluniau a dyfrlluniau o gasgliad stiwdio'r artist, nifer yn cael eu harddangos am y tro cyntaf, fydd yn codi'r llen ar ei bywyd a'i gwaith
- Cydweithio gyda sefydliadau celfyddydol nodedig ar broject ymchwil technegol newydd sy'n taflu goleuni newydd ar ddulliau arbrofol Gwen o adeiladu ei chyfansoddiadau
- Trafodaeth o ddylanwadau Gwen ac effaith ddofn ei ffydd ar ei gwaith
- Gweithiau mewn cyflwr rhagorol o'i stiwdio bersonol, sydd â'u lliwiau mor fyw ag erioed
- Gweithiau'n olrhain ei phroses, o'r brasluniau cyntaf i'r paentiadau terfynol, yn dangos ei dull gweithio bwriadus
- Astudiaeth o'i defnydd o liw, gan nodi'r union baent y byddai hi'n ei ddewis diolch o siart liwiau o'r cyfnod a llythyrau a nodiadau personol
- Orielau wedi'u paentio mewn arlliwiau sy'n adleisio paled Gwen ei hun, a hynny mewn partneriaeth â Little Greene, cwmni paent sy'n cynhyrchu yng Nghymru
Dywedodd Lucy Wood, Uwch Guradur Celf yn Amgueddfa Cymru a churadur Gwen John: Hardd a Hynod :
'Disgrifiodd Gwen John ei hun fel un oedd yn "dirnad harddwch hynod, canu harmonïau, gweithiwr diwyd". Byddai hi'n dychwelyd droeon at yr un testunau a syniadau er mwyn ceisio cyfleu prydferthwch y byd o'i chwmpas, ond hefyd i ganfod ystyr mewn byd o newid parhaus. Dros y blynyddoedd cafodd gwaith Gwen John ei werthuso'n bennaf drwy fywgraffiadau. Drwy gasglu ynghyd ei phaentiadau olew enwocaf a gweithiau ar bapur o'i stiwdio sydd prin wedi'u harddangos, mae'r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar ei dull o weithio a'i huchelgais artistig. Edrych yn ofalus a sylwi oedd yn hanfodol i waith Gwen John. Mae'r arddangosfa'n gyfle euraid i edrych o'r newydd ar ddyfnder a dycnwch ei gweledigaeth, a'i phenderfyniad wrth iddi geisio canfod harddwch hynod.'
Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru:
'Fel menyw annibynnol yn byw a gweithio fel artist ar ddechrau'r 20fed ganrif, fe dorrodd Gwen John gŵys newydd. Dyma fydd y tro cyntaf i nifer o'i darluniau a'i gweithiau stiwdio gael eu harddangos, a bydd yr arddangosfa fawr hon yn gyfle i werthfawrogi ei phrosesau a'i thechneg, a'r themâu wnaeth ddylanwadu arni a'i hysbrydoli.'
Dywedodd Mathew Prichard CBE, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston:
‘Wrth i ni ddathlu 30 mlynedd o gynorthwyo sefydliadau i ddatblygu gwaith Perfformio Byw a Chelf Weledol o’r safon uchaf, mae’n bleser cefnogi’r arddangosfa bwysig hon a sicrhau y bydd y cyfle arbennig i edrych yn ôl ar yrfa ryfeddol Gwen John yn dechrau, yn addas iawn, yn Amgueddfa Cymru.’
Trefnwyd yr arddangosfa gan Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth ag Orielau Cenedlaethol yr Alban, Yale Center for British Art a National Museum of Women in the Arts, Washington D.C. a bydd hi'n teithio i orielau partner yn yr Alban a'r UDA yn 2026 a 2027.
Mae dau gyhoeddiad newydd yn cael eu cynhyrchu i ategu'r arddangosfa. Mae'r catalog arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod (clawr caled, £50) yn cael ei gyhoeddi gan Yale Center for British Art ar y cyd ag Amgueddfa Cymru, a bydd ar gael yn yr agoriad. Y golygyddion yw Lucy Wood a Rachel Stratton, ac mae'n cynnwys naw traethawd sy'n edrych ar waith Gwen John o safbwynt ysgolhaig a ffeministaidd. Bydd Amgueddfa Cymru hefyd yn cyhoeddi Darganfod Gwen John (clawr meddal £24.99), fydd yn cynnwys rhagair gan Gwyneth Lewis ac ar gael o 5 Mawrth 2026. Bydd hwn yn canolbwyntio ar gasgliad unigryw Amgueddfa Cymru ac yn rhannu ein dealltwriaeth newydd o waith a phroses artistig Gwen John yn seiliedig ar y gwaith cadwraeth a wnaed gan staff Amgueddfa Cymru wrth baratoi ar gyfer yr arddangosfa.
Bydd y dathliadau canrif a hanner yn parhau gyda darllediad o raglen ddogfen newydd gan BBC Cymru Wales am fywyd a gwaith Gwen John, wedi'i gyflwyno gan ddarlledydd BBC Radio 1, Sian Eleri.
GWYBODAETH
Teitl arddangosfa: Gwen John: Hardd a Hynod
Lleoliad: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Dyddiadau: 7 Chwefror - 28 Mehefin 2026
Tocynnau ar werth o 18 Tachwedd 2025 drwy amgueddfa.cymru/GwenJohn
PRISIAU
Tymor Tawel (Tymor ysgol: Mawr-Gwe) | Tymor Prysur (Sad-Sul + Gwyliau ysgol) | |||
Gyda Rhodd | Heb Rodd | Gyda Rhodd | Heb Rodd | |
Pris llawn | £11 | £10 | £16 | £14 |
Gostyngiad Agored | £8 | £7 | £11 | £10 |
Dan 16, Aelodau, HYNT | Am ddim | Am ddim | Am ddim | Am ddim |
ICOM, Cymdeithas yr Amgueddfeydd, Cerdyn Celf Cenedlaethol | Am ddim | Am ddim | Am ddim | Am ddim |
DYDDIADAU TEITHIO’R ARDDANGOSFA
- Orielau Cenedlaethol yr Alban: Modern Two, Caeredin: 1 Awst 2026 - 4 Ionawr 2027
- Yale Center for British Art, Connecticut: 18 Chwefror - 20 Mehefin 2027
- National Museum of Women in the Arts, Washington DC: 30 Gorffennaf - 28 Tachwedd 2027
RHAGOLWG I'R WASG
Bydd Rhagolwg i'r Wasg yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Mercher 4 Chwefror 2026. Rhgor o fanylion i ddod.
CEFNOGAETH NAWDD
Cefnogir yr arddangosfa'n hael gan y prif noddwr, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, gyda chefnogaeth ychwanegol y Gronfa Gelf, Sefydliad Finnis Scott, Cyfeillion Amgueddfa Cymru, Ymddiriedolaeth Gibbs, Elusen gwendoline a Margaret Davies, y Sefydliad Cerddoriaeth a Chelf Rhyngwladol ac Ymddiriedolaeth elusennol Michael Marks, yn ogystal â chefnogwyr unigol.
Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, ein cymunedau ac yn ddigidol.
Rydyn ni am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac mae croeso cynnes i bawb o bob cymuned.
Dilynwch saith amgueddfa teulu Amgueddfa Cymru ar Instagram a Facebook. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu.
Casgliad Gwen John Amgueddfa Cymru
Yn Amgueddfa Cymru mae'r casgliad cyhoeddus mwyaf o waith Gwen John. Prynodd yr Amgueddfa y paentiad cyntaf ganddi yn 1935, a derbyn nodyn personol o ddiolch gan Gwen John. Yn 1976, gan mlynedd wedi ei geni, ehangodd yr Amgueddfa ei chasgliad drwy gaffael 900 a mwy o ddarluniau, dyfrlluniau, llyfrau braslunio ac astudiaethau olew a gafodd eu casglu o'i stiwdio ar ôl ei marw.
DYFYNIADAU YCHWANEGOL
Dywedodd Vee Pollock, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Orielau Cenedlaethol yr Alban:
'Hardd a Hynod yw'r arddangosfa gyntaf yn edrych yn ôl ar yrfa Gwen John i ddod i'r Alban, a hynny ar achlysur ei phen-blwydd yn 150 ac i ddathlu ei dylanwad barhaus. Bydd yr arddangosfa yn llenwi Modern Two yn Orielau Cenedlaethol yr Alban, gan roi cyfle i ymwelwyr ymgolli ac ymlacio yn lliwiau cynnil ei gweithiau. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gyflwyno'r Alban i waith yr artist gwych o Gymru yn 2026.'
Dywedodd Martina Droth, Cyfarwyddwr Paul Mellon, Yale Centre for British Art:
'Mae'r Yale Centre for British Art yn edrych ymlaen at fod yn rhan o'r arddangosfa flaengar hon, sy'n cyflwyno proses greadigol Gwen John i gynulleidfa gyfoes am y tro cyntaf mewn pedair degawd a mwy. Mae'r arddangosfa arloesol yn gyfle amserol i'r YCBA rannu'r paentiadau a'r darluniau hynod gan Gwen John sydd yn eu casgliad. Cafodd sylfaenydd yr YCBA, Paul Mellon, ei ysbrydoli gan weithiau myfyriol Gwen John i adeiladu'r casgliad cyhoeddus mwyaf o'i phaentiadau a'i darluniau y tu allan i'r DU. Mae'n fraint taw yma fydd yr arddangosfa gyntaf yn yr Unol Daleithiau o waith Gwen John, a hynny ar achlysur dathlu pen-blwydd yr amgueddfa yn hanner cant.'
Dywedodd Susan Fisher Sterlin, National Museum of Women in the Arts:
'Mae'n bleser gallu cydweithio ag Amgueddfa Cymru i godi'r llen ar waith Gwen John. Rydyn ni wedi edmygu dawn dawel Gwen John erioed, ac fel yr amgueddfa fawr gyntaf yn canolbwyntio'n llwyr ar fenywod yn y celfyddydau, rydyn ni'n edrych ymlaen at roi llwyfan amlwg i'w gwaith pan fydd yr arddangosfa'n teithio i Washington D.C.'