Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn cydweithio i helpu byrddau iechyd Cymru

Mae ymchwil helaeth yn cydnabod bod celf a chreadigrwydd o fudd i’n hiechyd a’n lles. Oherwydd ein hymrwymiad ar y cyd i helpu i gefnogi iechyd a lles pobl yng Nghymru trwy'r celfyddydau a diwylliant, mae Amgueddfa Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio i lansio cyfres o brojectau dan y teitl Celf ar y Cyd.

Cam cyntaf y broses fydd i Amgueddfa Cymru a Chyngor y Celfyddydau weithio gyda byrddau iechyd Cymru i weld sut y gall casgliad yr Amgueddfa gyfoethogi ac ategu'r gwaith celf sy’n cael ei arddangos mewn ysbytai ar hyn o bryd. Y nod yw dod â chysur i gleifion yn yr ysbytai dros dro a pharhaol drwy arddangos gwaith celf sy'n seiliedig ar yr ardal leol.

Sbardunwyd y project gan adeiladu 17 ysbyty dros-dro yng Nghymru i ddyblu capasiti’r GIG o ganlyniad i bandemig COVID-19.

Mae’r gweithiau a ddewiswyd gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn ddarlun o gyfoeth bywyd bob dydd yng ngorllewin Cymru. Maen nhw’n cynnwys golygfa o’r môr yn Moonlight on the Sea gan Lionel Walden, Pembroke Coast gan James Dickson Innes a Forest Cove, Cardigan Bay gan John Brett.

Mae’r gweithiau a ddewiswyd gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn ddarlun o gyfoeth bywyd bob dydd Cymoedd y de-ddwyrain. Maen nhw’n cynnwys golygfa stryd Kevin Sinnott Rhedeg i Ffwrdd gyda’r Torrwr Gwallt a thirlun gaeafol Ernest Zobole o’r Rhondda Fawr, Peth Coed ac Eira.

Mewn gofod adsefydlu penodol, mae arddangosfa o ffotograffau David Hurn o’r ardal, a dynnwyd rhwng y 1960au a’r 1980au, yn creu awyrgylch sy’n helpu cleifion hŷn i sbarduno atgofion. Ymhlith y ffotograffau mae’r ffefryn Dydd Llun Golchi, Cwm Rhondda, yn dathlu arferion traddodiadol y cartref.

 

Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru:

 

“Mae hwn yn gyfle gwych i gydweithio â Chyngor y Celfyddydau a Llywodraeth Cymru i gefnogi iechyd a lles cymunedau Cymru.

 

“Mae casgliad celf Cymru yn eiddo i bawb yng Nghymru. Mae gallu arddangos printiau o’r gweithiau celf prydferth yma a chodi calonnau cleifion ar amser anodd, yn un ffordd y gall celf wneud gwahaniaeth yn ein bywydau. Edrychwn ymlaen at gydweithio ymhellach gyda byrddau iechyd ar draws Cymru i gefnogi lles drwy ein casgliadau.”

 

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

 

“Fe wnaeth y diwygiwr iechyd enwog Florence Nightingale gydnabod yr effeithiau cadarnhaol y gall y celfyddydau eu cael wrth gynorthwyo adferiad cleifion. Felly, mae’n gwbl briodol bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn gweithio gyda’r Amgueddfa Genedlaethol i ddefnyddio ei chasgliad gwych i ddylanwadu’n gadarnhaol ar iechyd a lles cleifion a staff yn yr ‘ysbytai Nightingale’ hyn. Mae'r celfyddydau a diwylliant wedi bod yn ffynhonnell gysur i lawer o bobl yn ystod y cyfnod yma o bandemig a phryder. Mae'n enghraifft ymarferol o'r cytundeb rydyn ni wedi'i lofnodi gyda Chydffederasiwn y GIG i hyrwyddo'r buddion y gall y celfyddydau eu cynnig i les ac ansawdd bywyd pawb, yn enwedig y cleifion a'r staff sy'n ganolbwynt mor bwysig i’n meddyliau a'n diolch."

 

Bydd Celf ar y Cyd yn broject parhaus a byddwn yn cydweithio gyda byrddau iechyd ar draws Cymru ar ddulliau newydd i rannu’r Casgliad Cenedlaethol â thimau’r GIG a chleifion.

 

Bydd sawl elfen i broject Celf ar y Cyd, gan gynnwys cylchgrawn digidol misol, a phroject newydd fydd yn edrych ar hoff 100 gwaith celf y genedl o gasgliadau Amgueddfa Cymru. Gyda chyfyngiadau COVID-19 yn parhau i effeithio ar ymweld ag amgueddfeydd, y gobaith yw y bydd y projectau yma’n helpu i wneud y casgliadau yn agored i bawb.

 

Dywedodd Dr Meinir Jones, arweinydd clinigol ar gyfer ysbytai maes Bwrdd Iechyd Hywel Dda:

 

“Mae amgylchedd deniadol, ysgogol ac iachusol yn bwysig iawn i gleifion wrth iddynt wella. Byddai ein waliau fel arall yn foel, ond nawr mae gennym dirweddau hardd gorllewin Cymru i edrych arnynt, sy'n rhoi ymdeimlad o dawelwch a gobaith.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru am ein cynnwys ni yn y project yma. Rydym wedi cael ymateb hyfryd i’r gwaith celf gan y cleifion cyntaf i ddefnyddio un o’n hysbytai maes, sef Ysbyty Enfys Caerfyrddin, ac mae bendant wedi helpu i wella eu profiad fel cleifion. ”

 

Dywedodd Richard Lee, arweinydd clinigol ysbyty maes Cwm Taf Morgannwg:

 

“Mae’n gyffrous gweithio ar y project creadigol hwn gydag Amgueddfa Cymru. Bydd gweld gweithiau celf yn Ysbyty’r Seren yn gwneud gwahaniaeth mawr i bawb sy’n defnyddio’r adeilad, boed yn gleifion neu staff. Rydym wedi dewis darnau sy’n cynrychioli’r gymuned ac yn gyfarwydd i ni gyd, ac rwy’n siŵr y byddant yn rhoi cysur a mwynhad i bobl sydd yn treulio amser yma.”

 

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

 

“Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod effaith anferthol a digymar y pandemig ar ffordd o fyw Cymru ac rydym yn cymeradwyo dycnwch a chreadigrwydd ein hamgueddfeydd, ein harchifau a’n llyfrgelloedd.

 

“Yng nghyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol gellir gweld rôl allweddol celf a chreadigrwydd y tu hwnt i’r GIG a’i effeithiau therapiwtig, gan roi cyfrwng creadigol a buddiannau iechyd i gleifion, staff a’r cyhoedd. Mae’r Casgliad Celf Cenedlaethol yn eiddo i ni gyd. Rwyf yn falch bod mynediad at y gwaddol gwerthfawr hwn yn dod yn haws, ac yn yr achos hwn yn cyfoethogi awyrgylch ysbytai a chartrefi gofal. Wrth i’r project ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf edrychaf ymlaen at weld rhagor o gyfleon i’r celfyddydau chwarae rôl ehangach mewn gwahanol sefyllfaoedd.”

Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfa.cymru

 

DIWEDD