Rhyddid Gwybodaeth
Cynnwys:
Cyflwyniad
Amgueddfa Cymru yw prif sefydliad treftadaeth Cymru.
Fe'i sefydlwyd drwy Siarter Frenhinol ym 1907 fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae AOCC yn datblygu, yn gofalu am ac yn hyrwyddo mynediad i'w chasgliadau er budd cymdeithas a hynny am byth. Mae Siarter 1907 yn nodi bod hyn i'w gyflawni'n bennaf drwy ddarlunio'n llwyr ddaeareg, mwyneg, swoleg, botaneg, ethnograffeg, archaeoleg, celfyddyd, hanes a diwydiannau arbennig Cymru ac yn gyffredinol drwy gasglu, diogelu, egluro, cyflwyno a chyhoeddi.
Er ei fod yn gorff siartredig annibynnol, mae AOCC yn cael cefnogaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel Corff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad (CCNC) ac mae'n derbyn ei gyllid craidd drwy gymhorthdal.
Mae AOCC yn rhannu gweledigaeth gyffredin â'r Cynulliad Cenedlaethol, am fod y ddau sefydliad yn gweithio i greu Cymru hyderus sy'n edrych i'r tu allan. Y weledigaeth hon sydd wedi peri i AOCC ymrwymo i sicrhau bod yr wybodaeth a gyhoeddir ganddo ar gael o dan y Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth - Rhyddid Gwybodaeth.
Ar hyn o bryd mae AOCC yn gweithredu amgueddfeydd ar wyth safle ar draws Cymru:
Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru Parc Cathays, Caerdydd
(AOG)
Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd (AWC)
Amgueddfa'r Lleng Rufeinig Caerllion, Casnewydd (ALlR)
Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis, Gwynedd (ALC)
Amgueddfa Wlân Genedlaethol Dre-fach Felindre (AWG)
Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru
Blaenafon (PM)
Cyflwyniad i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
Pasiwyd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (DRhG) ar 30 Tachwedd 2000 gyda'r bwriad o annog i'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus weithredu mewn ffordd fwy agored. Mae'n rhoi hawl mynediad cyffredinol i bob math o wybodaeth sydd wedi'i chyhoeddi ac a ddelir gan gyrff cyhoeddus. Gall unrhyw berson ymarfer yr hawl i gyrchu gwybodaeth a ddelir gan gyrff cyhoeddus, yn aelodau o'r cyhoedd neu'n bersonau'r gyfraith, yn ddinasyddion Prydeinig a byd-eang.
Yn unol â chyrff cyhoeddus eraill y Cynulliad Cenedlaethol, bydd gofyn i AOCC weithredu'r Ddeddf o 1 Ionawr 2005 ymlaen. O'r amser hwnnw, bydd hawl gan unrhyw berson wneud cais am wybodaeth drwy ysgrifennu at, neu e-bostio'r Amgueddfa.
Mae'r DRhG yn rhoi dau hawl cysylltiedig i bobl sy'n gofyn am wybodaeth:
- Yr hawl i gael gwybod a yw'r wybodaeth a geisir yn bodoli
- Yr hawl i dderbyn y wybodaeth, lle bo modd yn y ffurf a geisir.
Mewn achosion lle mae'r wybodaeth a geisir yn perthyn i un o'r eithriadau, mae'n ofynnol i AOCC ystyried y prawf buddiant y cyhoedd. Mae'r prawf hwn yn penderfynu a yw'r eithriad o dan sylw yn drech na buddiant datgelu i'r cyhoedd.
Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth
Rhestr o gyhoeddiadau a gynhyrchir gan AOCC yw'r cynllun cyhoeddi gwybodaeth. Mae AOCC yn creu bod mynediad cyhoeddus i wybodaeth am yr amgueddfa a'i chasgliadau yn gwella dealltwriaeth y cyhoedd am y sector diwylliant a threftadaeth yng Nghymru. Nod y Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth yw esbonio pa wybodaeth y mae AOCC yn ei rhyddhau i'r cyhoedd, a lle bo'n bosibl yn darparu dull hawdd o gael gafael ar yr wybodaeth.
Gwybodaeth am Gynllun Cyhoeddi Gwybodaeth AOCC
Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn gofyn bod pob corff cyhoeddus yn cynhyrchu ac yn cynnal Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth. Pwrpas y Cynlluniau Cyhoeddi yw dynodi'r canlynol:
- Y mathau o wybodaeth y mae'r corff cyhoeddus yn ei chyhoeddi neu yn bwriadu ei chyhoeddi
- Ar ba ffurf y bydd y wybodaeth hon ar gael
- A yw'r wybodaeth ar gael am ddim ynteu a godir tâl amdani
Nodau'r Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth yw esbonio i'r cyhoedd pa wybodaeth y mae'r Amgueddfa yn ei rhyddhau, a lle bo modd, sicrhau bod y wybodaeth honno mor hawdd i'w chyrchu â phosibl.
Cynlluniwyd y Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth hwn i danlinellu gwybodaeth a chyhoeddiadau AOCC. Gallai rhai o'r dogfennau a restrir fod ar gael ar y wefan, a darperir dolenni i'ch galluogi i'w cyrchu'n rhwydd. Lle nad oes fersiwn ar-lein ar gael, enwir y cyfeiriad cyswllt neu'r lleoliad lle gellir ei weld yn y cynllun.
Hawlfraint
Gellir atgynhyrchu gwybodaeth a gynhyrchir gan AOCC ac a gynhwysir yn y cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth hwn at ddibenion gwybodaeth ac astudiaeth bersonol. Os hoffech chi atgynhyrchu unrhyw ddelwedd neu wybodaeth ar ffurf graffeg, cysylltwch â Swyddfa Fasnachol yr Amgueddfa i gael caniatâd atgynhyrchu.
Nid yw caniatâd i atgynhyrchu gwybodaeth yn y cynllun cyhoeddi gwybodaeth yn ymestyn i gwmpasu unrhyw ddeunydd a ddynodir fel hawlfraint trydydd parti. Rhaid derbyn caniatâd i atgynhyrchu deunydd o'r fath yn uniongyrchol o'r deiliad hawlfraint perthnasol.
Gwneud cais am wybodaeth
Mae'r wybodaeth a restrir yng Nghynllun Cyhoeddi Gwybodaeth AOCC ar gael yn gyffredinol mewn fformat electronig drwy lawrlwytho'r ddogfen berthnasol o wefan yr Amgueddfa. Gellir lawrlwytho'r wybodaeth hon am ddim.
Gellir cael copi caled o'r wybodaeth drwy gyflwyno cais ysgrifenedig i'r adran berthnasol fel a nodir yn y Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth. Os bydd angen tâl, nodir hynny. Gweler yr adran ar brisiau.
Maw rhywfaint o'r wybodaeth ar gael i'w ddarllen yn Llyfrgelloedd yn Amgueddfa: yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd a'r Amgueddfa Werin, Sain Ffagan. Ffoniwch i drefnu apwyntiad.
Polisi AOCC yw darparu gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg. Dylech nodi eich dewis iaith wrth wneud cais am gop?au caled.
Mathau o Wybodaeth
Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn gofyn bod Cynlluniau Cyhoeddi Gwybodaeth yn dynodi'r mathau o wybodaeth y mae cyrff cyhoeddus yn eu cyhoeddi eisoes neu'n bwriadu eu cyhoeddi. Bwriad AOCC yw cyhoeddi cymaint o wybodaeth â phosibl am bynciau lle mae diddordeb cydnabyddedig o du'r cyhoedd.
Gallai fod achosion lle bydd esemptiad yn bod; gall y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth atal peth gwybodaeth rhag cael ei rhyddhau.
Mae AOCC yn cyhoeddi, neu'n bwriadu cyhoeddi gwybodaeth o'r mathau a restrir isod.
Gwybodaeth am AOCC
Gwybodaeth am strwythur rheoli'r Amgueddfa, ei hadroddiadau, cynlluniau a strategaethau corfforaethol, cofnodion y Cyngor a Bwrdd y Cyfarwyddwyr, polis?au mewnol AOCC a rhestr o roddwyr a chymwynaswyr.
AOCC - Gwybodaeth a Newyddion Cyfoes
Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau, swyddi a gwybodaeth gyffredinol am y safle.
Gwasanaethau a Gweithgareddau Addysgol
Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau addysgol, yn ogystal â'r taflenni gwaith a'r canllawiau ar-lein sydd ar gael yn AOCC.
Casgliadau a Materion Curadurol
Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth am y casgliadau a ddelir gan AOCC, rhestr o raglenni ymchwil cyfredol, catalogau o'r casgliadau (pan fyddant ar gael), a rhestr gyfoes o adroddiadau a gweithgareddau curadurol. Yn ogystal, mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth am fenthyciadau i gyrff allanol.
Gwybodaeth Marchnata
Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth am niferoedd ymwelwyr holl safleoedd AOCC ac yn darparu gwybodaeth hyrwyddo ar sawl ffurf fel taflenni safle, rhestr o'r digwyddiadau sydd ar y gweill a Premier, cyhoeddiad newyddion AOCC sy'n cynnwys gwybodaeth am gasgliadau a digwyddiadau diweddar.
Llogi corfforaethol
Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth am yr adnoddau llogi a gwasanaethau corfforaethol a gynigir gan AOCC.
Gwybodaeth na restrir yn y Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth
Fel a nodir o dan ?Cyrchu Gwybodaeth y Llywodraeth' gallwch wneud cais hefyd i weld gwybodaeth na restrir yn y Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth. Os nad yw'r hyn yr ydych chi am ei weld ar gael o dan y cynllun, ysgrifennwch at:
Ysgrifennydd yr Amgueddfa
Amgueddfa Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP
E-bost: cais.rhyddidgwyb@amgueddfacymru.ac.uk
Wrth wneud cais am wybodaeth, dylech gynnwys y manylion canlynol:
Eich enw a'ch cyfeiriad
Yr wybodaeth neu'r dogfennau yr hoffech eu gweld
Sut hoffech dderbyn yr wybodaeth
(er enghraifft fel copi caled, e-bost neu ddogfen WORD ar ddisg)
Eithriadau
Pan fydd hawl yr unigolyn i gyrchu gwybodaeth yn gweithredu, bydd yn berthnasol i bob math o wybodaeth sydd wedi'i chofnodi ac sydd yn nwylo awdurdodau cyhoeddus waeth beth fo dyddiad yr wybodaeth. Os yw'r wybodaeth a geisir yn destun esemtiad, bydd rhaid i AOCC benderfynu a ddylid diystyru'r esemptiad hwnnw am y byddai rhyddhau'r wybodaeth yn fanteisiol i'r cyhoedd. Ni chaiff gwybodaeth ei hatal oni bai bod y manteision i'r cyhoedd o atal y wybodaeth yn drech na'r manteision o'i rhyddhau. Hynny yw, pan fyddai datgelu gwybodaeth yn achosi niwed sylweddol neu'n torri cyfrinachedd.
Lle mae esemptiad neu esemptiad llwyr yn bodoli, ni fydd gofyn i AOCC ddatgelu a yw'n dal yr wybodaeth ai peidio, fodd bynnag bydd AOCC yn cynnig esboniad i'r ymgeisydd am ei benderfyniad. Os gwrthodir unrhyw gais, bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod am ei hawl i apelio i'r Comisiynydd Gwybodaeth yn erbyn y penderfyniad.
Caiff unrhyw geisiadau gan unigolion am wybodaeth amdanynt eu hunain, eu hystyried yng ngoleuni Deddf Gwarchod Data 1998, a chânt eu hesemptio o dan y DRhG.
Codi Tâl o dan y Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth
Nod y Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth yw sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael am ddim. Gallai ceisiadau am gop?au niferus neu am ddogfennau archif nad ydynt bellach ar gael ar wefan yr Amgueddfa ddwyn taliad am y gost o'u hadfer, eu llungop?o a'u postio. Os oes angen codi tâl am eich cais byddwn yn gofyn a ydych am barhau â'r cais cyn i ni gyflawni'r gwaith. Ni chodir TAW. Caiff y prisiau a nodir isod eu hadolygu yn rheolaidd.
Y meini prawf ar gyfer codi tâl:
1. Gwybodaeth a ddarperir am ddim
- Adroddiadau blynyddol ac ariannol
- Ffeithiau a gwaith dadansoddi y tu ôl i benderfyniadau polisi pwysig
- Adroddiadau, cynlluniau a strategaethau corfforaethol
- Gwybodaeth am ein gwasanaethau
- Mae hefyd yn cynnwys mynediad i wybodaeth am gasgliadau a ddelir ar y Rhyngrwyd
- Ymholiadau cyffredinol dros y ffôn
- Cop?au o daflenni safle di-dâl sydd ar gael ym mhob un o safleoedd AOCC.
2. Bydd gwybodaeth argraffiedig neu electronig a chyfryngau eraill a gyhoeddwyd ac sydd ar gael i'w prynu yn nodi'r pris prynu.
Gweithdrefn gwyno
Polisi AOCC yw bod mor agored â phosibl a darparu'r wybodaeth yr ydych chi wedi gofyn amdani, ond fe allwn ddal gwybodaeth yn ôl os ydym ni'n teimlo y byddai ei rhyddhau yn achosi niwed.
Os caiff unrhyw wybodaeth sydd mewn dogfen a ryddheir yn unol â'r Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth hwn yn cael ei dal yn ôl, caiff y ddogfen ei marcio'n glir i ddangos o ble mae'r wybodaeth wedi cael ei thynnu a chaiff sail yr esemptiad ei nodi.
Os byddwn ni'n gwrthod rhyddhau gwybodaeth arall a geisiwyd gennych yn llwyr neu'n rhannol, byddwn ni'n ysgrifennu atoch i esbonio ein rhesymau dros wneud hynny. Bydd y rhesymau ar sail categor?au esemptio Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mewn unrhyw achos lle caiff cais am wybodaeth o dan hawl unigolyn i fynediad ei wrthod, gallai fod modd apelio yn erbyn y penderfyniad. Yn y lle cyntaf byddwn am i unrhyw apelau o'r fath gael eu cyfeirio i gael eu hadolygu'n fewnol gan AOCC, ond bydd hawl i apelio i'r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd (gweler isod).
Os nad ydych chi'n fodlon ar y rhesymau a gynigir gan AOCC, mae gennych hawl i apelio. Gallwch apelio hefyd os credwch fod y taliadau a godir gennym am ddarparu gwybodaeth yn annheg.
Gellir anfon apelau at:
Y Comisiynydd Gwybodaeth / Information Commissioner
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer
SK9 5AF
Drwy ffacs:
01625 524 510
Drwy e-bost
data@dataprotection.gov.uk