Datganiad Gorchwyl Cyhoeddus

Mae Amgueddfa Cymru yn gorff siartredig annibynnol (Rhif Siarter Brenhinol RC000369) ac yn elusen gofrestredig annibynnol (rhif elusen 525774). Mae’n cael ei hariannu’n bennaf trwy gymorth grant gan Lywodraeth Cymru fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Enw cyhoeddus cyfredol y sefydliad yw Amgueddfa Cymru.

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am lywodraethu, rheolaeth ariannol ac asedau’r sefydliad. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn rheolaidd, yn gyhoeddus, i gynnal ei fusnes. Caiff yr un aelod ar bymtheg eu penodi gan Lywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru, mewn niferoedd sydd wedi’u pennu yn y Siarter Frenhinol ategol ac yn unol ag egwyddorion dewis a dethol agored fel yr argymhellir gan Adolygiad Nolan. Y Cyfarwyddwr Cyffredinol a’r Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am reoli’r Amgueddfa.

Mae

ein Siarter (1907, diwygiwyd ym 1991 a 2006)

yn nodi mai ein diben yw: ‘hyrwyddo addysg y cyhoedd… drwy ddarlunio’n gyflawn wyddoniaeth, celfyddydau, diwydiannau, hanes a diwylliant Cymru neu sy’n berthnasol i Gymru, ac... yn gyffredinol, drwy gasglu, cofnodi, diogelu, egluro a chyflwyno gwrthrychau a phethau a gwybodaeth gysylltiedig, boed yn gysylltiedig â Chymru ai peidio, y bwriedir iddynt hyrwyddo gwella dealltwriaeth a hybu ymchwil’.

Amgueddfa Cymru yw prif ystorfa gwrthrychau tri dimensiwn sy’n ymwneud â threftadaeth naturiol a diwylliannol Cymru a deunydd rhyngwladol sy’n gymorth i ddiffinio lle Cymru yn y byd. Ar hyn o bryd mae tua 5 miliwn o eitemau yn y casgliadau gan gwmpasu amrywiol bynciau megis hanes gwerin a diwydiannol, archaeoleg, celf a’r gwyddorau naturiol. Mae yma arteffactau, sbesimenau gwyddonol, paentiadau, printiau a darluniau, archifau papur, ffeiliau digidol, ffotograffau, recordiadau a chyhoeddiadau.

Cedwir y casgliadau mewn ymddiriedolaeth i bobl Cymru ac maent yn bodoli er lles cymdeithas. Maent yn greiddiol i’n gwasanaeth i’r cyhoedd ac yn cael eu defnyddio gan y staff i hwyluso profiad yr ymwelydd, y profiad ar-lein, addysg, ymchwil, cyfranogiad a’n hymrwymiad i wneud gwahaniaeth yng Nghymru. Fe’u defnyddir mewn dulliau cynyddol amrywiol tu hwnt i’r sefydliad er mwynhad, addysg, ysbrydoliaeth, ymchwil a darganfod. At hyn, maent yn allweddol i rôl Amgueddfa Cymru a seiliau diwylliannol a gwyddonol y genedl.

Yn ein gweledigaeth

‘Ysbrydoli Pobl, Newid Bywydau’

, diffinir ein pwrpas fel a ganlyn: ‘trwy ein hamgueddfeydd a’n casgliadau, ysbrydoli pobl i feithrin eu hunaniaeth a’u lles; i ddarganfod, mwynhau a dysgu’n ddwyieithog a deall lle Cymru yn y byd’. Dyma bum ymrwymiad strategol y Weledigaeth:

Gwneud gwahaniaeth i Gymru: newid bywydau trwy weithio gyda chyrff lleol a chenedlaethol i greu Cymru hapusach, iachach a mwy cynaliadwy, lle mae diwylliant yn hygyrch i bawb a’r economi’n ffynnu.

Profiad amgueddfa: mae ymwelwyr yn cael profi amgueddfeydd, arddangosfeydd, a gofodau cyhoeddus o ansawdd uchel lle gallant ddysgu a mwynhau.

Profiad ar-lein: mae defnyddwyr yn cael profi amgueddfa ddigidol hygyrch a chydgysylltiedig gan ymgysylltu, bod yn greadigol a dysgu.

Addysg a chreadigrwydd: mae gan bawb gyfoeth o gyfleoedd i ddysgu, ymchwilio a chreu.

Cyfranogiad a chynhwysiant: mae unigolion, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru a thu hwnt yn cymryd rhan mewn gweithgareddau trawsddiwylliannol, cynhwysol a hygyrch a luniwyd ganddynt.

Wrth gyflawni gofynion y Siarter ac amcanion y Weledigaeth, mae Amgueddfa Cymru’n cynhyrchu nifer o ‘ddogfennau’, fel y diffinnir dan y Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus 2015. Mae cyflenwi’r ‘dogfennau’ hyn yn rhan o’n ‘Gorchwyl Cyhoeddus’.

Mae’r datganiad hwn yn disgrifio Gorchwyl Cyhoeddus cyfredol Amgueddfa Cymru at ddibenion y Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus 2005 fel y’i diwygiwyd yn 2015 (y Rheoliadau Ailddefnyddio).

Gorchwyl Cyhoeddus

Mae ‘gorchwyl cyhoeddus’ Amgueddfa Cymru yn cynnwys ei swyddogaethau dan ei Siarter Frenhinol; y swyddogaethau sy’n rhaid eu diwallu er mwyn gwireddu’r weledigaeth, sef ‘ysbrydoli pobl, newid bywydau’ o 2015 ymlaen; ac unrhyw swyddogaethau eraill sy’n briodol ym marn Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Mae hefyd yn cynnwys swyddogaethau sy’n berthnasol dan ddeddfwriaeth gysylltiedig, megis y Ddeddf Diogelu Data a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000; amcanion Amgueddfa Cymru a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yn y

llythyr cylch gwaith blynyddol

, a rhoi cyngor cyffredinol yn ymwneud â’i arbenigedd craidd i sector cyhoeddus y Deyrnas Unedig. Rydym yn cadw dogfennau ar glawr ac yn eu defnyddio at y dibenion canlynol yn unol â’n gorchwyl cyhoeddus:

  • Rhoi mynediad i’r Casgliadau ac arddangosfeydd: yn yr Amgueddfa, ar fenthyg, mewn partneriaeth ag amgueddfeydd a sefydliadau addysgol a diwylliannol eraill, ac ym mhob cyfrwng a fformat
  • Cadwraeth, cynnal a chadw, datblygiad a diogelwch ei hasedau, gan gynnwys y Casgliad, adeiladau, seilwaith a thiroedd
  • Cynhyrchu neu gomisiynu cynnwys, boed hynny’n uniongyrchol neu ar y cyd ag eraill, sy’n ymwneud â chadwraeth, arddangosfeydd, addysg ffurfiol ac anffurfiol, ymchwil gwyddonol a dyniaethol ac unrhyw gynnwys arall, boed â chysylltiad uniongyrchol neu anuniongyrchol â’r Casgliad
  • Dosbarthu’r cynnwys hwnnw, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, boed mewn print, ar ffilm, yn ddigidol neu unrhyw gyfrwng arall
  • Trwyddedu hawliau ar gyfer gwneud defnydd masnachol neu anfasnachol o’i chynnwys gan drydydd parti.
  • Codi arian yn unol â’i statws elusennol.

Fel mater o bolisi, caiff pob dogfen o’r fath ei chynhyrchu a'i chaffael er mwyn cyflawni’r holl weithgareddau o fewn ein Gorchwyl Cyhoeddus byd-eang.

Mae rhagor o wybodaeth am y categorïau o ddogfennau’r Amgueddfa sydd ar gael i’w hailddefnyddio, ac o dan ba delerau, yn

Atodlen

y datganiad hwn.

Rhan annatod o’n Gorchwyl Cyhoeddus yw cyfrifoldeb y sefydliad – sy’n gofalu am gasgliadau cenedlaethol Cymru – i rannu gwybodaeth ynghylch ein diben craidd, ein gwaith, ein digwyddiadau a’n gweithgareddau â phobl Cymru a thu hwnt.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddatganiad gorchwyl cyhoeddus yr Amgueddfa, e-bostiwch cais.rhyddidgwyb@amgueddfacymru.ac.uk.

Gellir cyflwyno unrhyw gwynion am benderfyniadau’r Amgueddfa dan y Rheoliadau trwy ein gweithdrefnau sylwadau a chwynion.

Caiff datganiad gorchwyl cyhoeddus yr Amgueddfa ei adolygu’n rheolaidd.

Atodlen

Mae cyfran sylweddol o ddogfennau’r Amgueddfa ar gael yn rhad ac am ddim wrth eu cyhoeddi, trwy gynllun cyhoeddi’r Amgueddfa.

Mae dogfennau eraill ar gael i’w hailddefnyddio, ond codir tâl fydd yn amrywio gan ddibynnu ar y rheswm dros eu hailddefnyddio a/neu am ddarparu copïau digidol o’r rhai papur gwreiddiol.

Cliciwch yma am restr gryno o’r dogfennau

sydd ar gael a’r amodau ailddefnyddio.

Mae’r Amgueddfa o’r farn bod cyflenwi rhai dogfennau y tu hwnt i’w gorchwyl cyhoeddus a chwmpas y Rheoliadau. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae’r rhain yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i:

  1. Dogfennau a grëwyd neu a gomisiynwyd gan is-gwmnïau masnachol yr Amgueddfa ar gyfer ymgynghori masnachol, hyfforddiant neu gyflenwi nwyddau a gwasanaethau
  2. Dogfennau a gomisiynwyd gan yr Amgueddfa gan drydydd parti at eu dibenion eu hunain
  3. Dogfennau a grëwyd neu a gomisiynwyd gan is-gwmnïau masnachol yr Amgueddfa sy’n ymwneud â chreu, dylunio, llunio, cynhyrchu, gweithgynhyrchu, dosbarthu, cyhoeddi a gwerthu aelodaeth, cynadleddau a digwyddiadau, cofroddion, ffilm a delweddau, nwyddau, bwyd, diod a chynhyrchion eraill.

Os nad yw’r hyn dogfennau rydych chi’n chwilio amdanynt yma, e-bostiwch eich cais atom cais.rhyddidgwyb@amgueddfacymru.ac.uk gan gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • Eich enw a’ch cyfeiriad gohebu (e-bost neu’r post)
  • Y ddogfen/dogfennau y gwneir cais amdanynt
  • Y rheswm dros ailddefnyddio’r ddogfen.

Bydd yr Amgueddfa yn ymateb i’ch cais cyn pen 20 diwrnod gwaith.