Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth

Canllawiau i wybodaeth sydd ar gael gan Amgueddfa Cymru trwy Gynllun Cyhoeddi Gwybodaeth Enghreifftiol Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Cefndir

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn cynnig mynediad cyhoeddus i wybodaeth sydd yn nwylo awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Amgueddfa Cymru.

Mae’n gwneud hyn mewn dwy ffordd:

  • mae rhwymedigaeth ar awdurdodau cyhoeddus i gyhoeddi gwybodaeth am ein gweithgareddau
  • mae gan aelodau’r cyhoedd yr hawl i wneud cais am wybodaeth gennym.

Mae’n ofynnol i ni gael cynllun cyhoeddi, felly, dan y Ddeddf hon. Mae’n cyflwyno’r mathau o wybodaeth rydym ni’n ei chyhoeddi, neu’n bwriadu ei chyhoeddi, sut mae’r wybodaeth ar gael ac a oes unrhyw ffi i’w thalu. Mae Amgueddfa Cymru wedi mabwysiadu Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth Enghreifftiol 2013 a baratowyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Nod y Canllawiau hyn yw:

  • caniatáu i chi weld pa wybodaeth sydd ar gael (a ddim ar gael) mewn perthynas â phob un o’r chwe math neu gategori o wybodaeth
  • nodi unrhyw gostau
  • esbonio sut gallwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth yn hawdd
  • darparu manylion cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau a chymorth i gael gafael ar wybodaeth
  • esbonio sut i wneud cais am wybodaeth sydd gennym nad yw wedi’i chyhoeddi.

Argaeledd a fformatau

Mae’r wybodaeth rydym ni’n ei chyhoeddi trwy’r cynllun hwn ar gael ar ein gwefan, lle bo modd. Rydym ni’n cynnig trefniadau amgen ar gyfer pobl sydd naill ai ddim eisiau, neu ddim yn gallu, cael gafael ar wybodaeth ar-lein, neu yn ein hamgueddfeydd. Er enghraifft, fel arfer gallwn drefnu anfon gwybodaeth ar bapur i chi (er y gellir codi tâl am hyn).

Gwybodaeth wedi’i heithrio

Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth sydd gennym sy’n perthyn i’r categorïau gwybodaeth isod. Os yw dogfen yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (er enghraifft, gwybodaeth bersonol sensitif neu wybodaeth fasnachol sensitif), mae’n bosibl y byddwn yn dileu neu’n golygu’r wybodaeth cyn cyhoeddi, gan esbonio pam.

Hawlfraint

Os mai Amgueddfa Cymru yw deiliaid hawlfraint yr wybodaeth gyhoeddedig, cewch gopïo neu atgynhyrchu’r wybodaeth honno heb ganiatâd ffurfiol, os byddwch yn glynu wrth yr amodau canlynol:

  • ei bod yn cael ei chopïo neu ei hatgynhyrchu’n gywir
  • nad yw’n cael ei defnyddio mewn cyd-destun camarweiniol
  • bod ffynhonnell y deunydd yn cael ei nodi

Os nad ydym yn meddu ar yr hawlfraint, byddwn yn nodi hyn yn glir.

Ffioedd

Mae’r adran hon yn esbonio y gallem godi tâl am ddarparu cyhoeddiadau, a sut y byddwn yn cyfrifo unrhyw dâl a godir. Nid ydym yn codi tâl arnoch i weld gwybodaeth ar ein gwefan neu yn ein hamgueddfeydd.

Mae’n bosibl y byddwn yn codi tâl am ddarparu gwybodaeth e.e. llungopïo a phostio, ond ni fyddwn yn codi mwy na chost gwneud y gwaith. Byddwn bob amser yn dweud wrthych faint yw’r gost cyn darparu’r wybodaeth i chi. Ni fyddwn yn codi tâl arnoch oni bai ein bod yn gorfod copïo mwy na 10 tudalen.

Byddwn yn anfon unrhyw gostau postio a dalwyd gennym ymlaen atoch.

Wrth ddarparu copïau o unrhyw gyhoeddiadau sydd eisoes wedi’u hargraffu, ni fyddwn yn codi mwy na chost gwreiddiol argraffu (hynny yw cost un copi o’r nifer a argraffwyd). Ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw gostau eraill atoch mewn perthynas â’n gwybodaeth gyhoeddedig.

Nid yw’r rhestr ffioedd hon yn berthnasol i’n cyhoeddiadau masnachol (gweler Categori 8 isod). Mae’r eitemau hyn ar werth gan fanwerthwyr (e.e. siopau llyfrau, gwefannau cyfnodolion academaidd neu siopau amgueddfeydd) ac mae eu pris yn adlewyrchu ‘gwerth y farchnad’ a all gynnwys cost cynhyrchu.

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth gydag unrhyw ran o’r cynllun cyhoeddi hwn:

Ysgrifennydd yr Amgueddfa
Amgueddfa Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP
Ffôn: 029 2057 3204
E-bost: cais.rhyddidgwyb@amgueddfacymru.ac.uk>

Byddwn yn falch o’ch cynghori hefyd ynglŷn â sut i ofyn am wybodaeth na chaiff ei chyhoeddi gennym, neu sut i gwyno os ydych chi’n anfodlon ag unrhyw agwedd ar y canllawiau hyn mewn perthynas â’r cynllun cyhoeddi gwybodaeth enghreifftiol.

Y mathau o wybodaeth a gyhoeddir gennym

Rydym ni’n cyhoeddi gwybodaeth yn ein meddiant o fewn y categorïau isod. Unwaith y cyhoeddir gwybodaeth dan gategori arbennig, byddwn yn parhau i sicrhau ei bod ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol a’r ddwy flynedd flaenorol.

Lle cafodd gwybodaeth ei diweddaru neu ei disodli, dim ond y fersiwn gyfredol fydd ar gael. Os hoffech weld y fersiynau blaenorol, mae croeso i chi wneud cais i ni am yr wybodaeth honno.

CATEGORI 1: CEFNDIR AMGUEDDFA CYMRU

Dyma wybodaeth am Amgueddfa Cymru, pwy ydym ni a beth rydym ni’n ei wneud, gwybodaeth am y sefydliad, strwythurau, lleoliadau a chontractau, llywodraethu cyfansoddiadol a chyfreithiol. Dim ond gwybodaeth gyfredol sydd yn y categori hwn.

Pa fath o wybodaeth a gyhoeddir gennym dan y categori hwn Sut i gael yr wybodaeth hon
Amdanom ni www.amgueddfacymru.ac.uk/corfforaethol/
Amgueddfa Cymru – Siarter a Statudau www.amgueddfacymru.ac.uk/siarter-a-statudau/
Llythyr Cylch Gorchwyl gan Lywodraeth Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk/llythyrau_cylch_gorchwyl/
Ymddiriedolwyr www.amgueddfacymru.ac.uk/ymddiriedolwyr/
Amgueddfa Cymru – Bwrdd yr Ymddiriedolwyr: Cod Ymddygiad Copi papur gan Ysgrifennydd yr Amgueddfa
Strwythur rheoli a sefydliadol Copi papur gan Ysgrifennydd yr Amgueddfa
Staff uwch (cyfrifoldebau a bywgraffiadau byr) www.amgueddfacymru.ac.uk/cyfarwyddwr
www.amgueddfacymru.ac.uk/cyfarwyddwyr/
Lleoliad a manylion cyswllt www.amgueddfacymru.ac.uk/ymholiadau
Swyddfa’r Wasg, Amgueddfa Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk/gwasg/
Fframwaith rhyngwladol, Amgueddfa Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk/rhyngwladol/
Partneriaethau www.amgueddfacymru.ac.uk/partneriaethau/

CATEGORI 2: GWYBODAETH ARIANNOL AM AMGUEDDFA CYMRU

Dyma wybodaeth am wariant Amgueddfa Cymru, hynny yw, gwybodaeth ariannol sy’n ymwneud ag incwm a gwariant rhagamcanol a gwirioneddol, tendrau, caffael, contractau ac archwiliadau ariannol. Mae’r wybodaeth sydd ar gael yn ymwneud â’r flwyddyn gyfredol a’r ddwy flwyddyn ariannol flaenorol o leiaf.

www.amgueddfacymru.ac.uk/adroddiadau/
Pa fath o wybodaeth a gyhoeddir gennym dan y categori hwn Sut i gael yr wybodaeth hon
Adroddiadau ariannol blynyddol
Rhaglenni cyfalaf mawr Wedi’u cynnwys yn yr Adroddiadau Blynyddol ac yma: www.amgueddfacymru.ac.uk/sainffagan/creuhanes
Sut i gefnogi Amgueddfa Cymru trwy roddion a chymynroddion www.amgueddfacymru.ac.uk/cefnogi/
Gwybodaeth am logi ein lleoliadau www.amgueddfacymru.ac.uk/llogi/
Gwybodaeth am ein siop ar-lein gan gynnwys llyfrau, cyhoeddiadau sydd ar werth ac eitemau i’w hargraffu ar gais www.amgueddfacymru.ac.uk/siop/

CATEGORI 3: BLAENORIAETHAU A PHERFFORMIAD AMGUEDDFA CYMRU

Dyma wybodaeth am flaenoriaethau Amgueddfa Cymru a chynnydd y blaenoriaethau hynny, gan gynnwys gwybodaeth am strategaeth a pherfformiad, cynlluniau, asesiadau, archwiliadau ac adolygiadau. Mae’r wybodaeth sydd ar gael yn ymwneud â’r flwyddyn gyfredol a’r tair blynedd blaenorol o leiaf.

Pa fath o wybodaeth a gyhoeddir gennym dan y categori hwn Sut i gael yr wybodaeth hon
Siarter a statudau www.amgueddfacymru.ac.uk/siarter-a-statudau/
Cynlluniau Gweithredol a Strategol www.amgueddfacymru.ac.uk/nodau/
Gweledigaeth www.amgueddfacymru.ac.uk/nodau/
Llythyr Cylch Gorchwyl gan Lywodraeth Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk/llythyrau_cylch_gorchwyl/
Adroddiadau Perfformiad Chwarterol Copi papur gan Ysgrifennydd yr Amgueddfa
Adroddiadau Blynyddol (pan gyhoeddir) ar wahân i’r Adroddiadau Ariannol Blynyddol (gweler Categori 1) Copi papur gan Ysgrifennydd yr Amgueddfa
Ffigurau ymwelwyr www.amgueddfacymru.ac.uk/cyfanswm_ymwelwyr/
Yswiriant www.amgueddfacymru.ac.uk/atebolrwydd/yswiriant/
www.amgueddfacymru.ac.uk/atebolrwydd/yswiriant_gwirfoddolwr/

CATEGORI 4: SUT MAE AMGUEDDFA CYMRU YN GWNEUD PENDERFYNIADAU

Dyma wybodaeth am gynigion a phenderfyniadau polisi Amgueddfa Cymru. Mae’n cynnwys prosesau penderfynu, meini prawf, gweithdrefnau ac ymgynghoriadau mewnol. Mae’r wybodaeth sydd ar gael yn ymwneud â’r flwyddyn gyfredol a’r tair blynedd blaenorol o leiaf.

Pa fath o wybodaeth a gyhoeddir gennym dan y categori hwn Sut i gael yr wybodaeth hon
Ymgynghoriadau cyhoeddus www.amgueddfacymru.ac.uk/ymgynghori/ / Copi papur gan Ysgrifennydd yr Amgueddfa
Cofnodion cyfarfodydd lefel uwch www.amgueddfacymru.ac.uk/atebolrwydd/cofnodion_ymddiriedolwyr/
Fframwaith Moesegol www.amgueddfacymru.ac.uk/amdano/polisi/fframwaith_moesegol

CATEGORI 5: POLISÏAU A GWEITHDREFNAU AMGUEDDFA CYMRU

Dyma wybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau Amgueddfa Cymru gan gynnwys protocolau ysgrifenedig ar gyflawni ein swyddogaethau a’n cyfrifoldebau. Dim ond gwybodaeth gyfredol a gedwir yn y categori hwn.

Pa fath o wybodaeth a gyhoeddir gennym dan y categori hwn Sut i gael yr wybodaeth hon
Polisi Diogelu Plant www.amgueddfacymru.ac.uk/amdano/polisi/polisi_amddiffyn_plant/
Polisi Gwarchod Data www.amgueddfacymru.ac.uk/amdano/polisi/polisi_gwarchod_data/
Cynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl www.amgueddfacymru.ac.uk/amdano/polisi/cynllun_cydraddoldeb_i_bobl_anabl/
Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth www.amgueddfacymru.ac.uk/amdano/polisi/polisi_cydraddoldeb_ac_amrywiaeth/
Polisi Iechyd a Diogelwch www.amgueddfacymru.ac.uk/amdano/polisi/bolisi_iechyd_diogelwch/
Strategaeth Dysgu www.amgueddfacymru.ac.uk/amdano/polisi/strategaeth_dysgu_a_mynediad/
Polisi Ffotograffiaeth www.amgueddfacymru.ac.uk/polisi_ffotograffiaeth/
Cynllun Iaith www.amgueddfacymru.ac.uk/amdano/polisi/cynllun_iaith_gymraeg/
Polisi a Strategaeth Ymchwil www.amgueddfacymru.ac.uk/curadurol/
Cyflwyno sylwadau, cwynion neu ganmoliaeth www.amgueddfacymru.ac.uk/cwynion (ar y gweill)

CATEGORI 6: RHESTRAU A CHOFRESTRAU AMGUEDDFA CYMRU

Dyma wybodaeth am restrau a chofrestrau Amgueddfa Cymru, gan gynnwys gwybodaeth a gedwir mewn cofrestrau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith a rhestrau a chofrestrau eraill sy’n ymwneud â swyddogaethau’r amgueddfa. Dim ond gwybodaeth gyfredol a gedwir yn y categori hwn.

Pa fath o wybodaeth a gyhoeddir gennym dan y categori hwn Sut i gael yr wybodaeth hon
Cofnodion Datgeliadau www.amgueddfacymru.ac.uk/rhyddid_gwybodaeth/disclosure_log

CATEGORI 7: Y GWASANAETHAU A GYNIGIR GAN AMGUEDDFA CYMRU

Dyma wybodaeth am y gwasanaethau a gynigir gan Amgueddfa Cymru gan gynnwys cyngor a chyfarwyddyd, llyfrynnau a thaflenni, trafodion a datganiadau i’r wasg. Gyda’i gilydd mae’r wybodaeth hon yn rhoi disgrifiad o’r gwasanaethau a gynigir. Dim ond gwybodaeth gyfredol a gedwir yn y categori hwn.

Pa fath o wybodaeth a gyhoeddir gennym dan y categori hwn Sut i gael yr wybodaeth hon
Gwybodaeth am ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd www.amgueddfacymru.ac.uk/caerdydd/
Gwybodaeth am ymweld â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk/sainffagan/
Gwybodaeth am ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk/abertawe/
Gwybodaeth am ymweld â Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk/bigpit/
Gwybodaeth am ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk/llechi/
Gwybodaeth am ymweld ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk/rufeinig
Gwybodaeth am ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk/gwlan/
Gwybodaeth am siop ar-lein Amgueddfa Cymru, gan gynnwys llyfrau, cyhoeddiadau sydd ar werth ac eitemau i’w hargraffu ar gais www.amgueddfacymru.ac.uk/siop/
Gwybodaeth am y casgliadau cenedlaethol www.amgueddfacymru.ac.uk/casgliadau/
Gwybodaeth am ymchwil www.amgueddfacymru.ac.uk/curadurol/
Gwybodaeth am fenthyciadau www.amgueddfacymru.ac.uk/corfforaethol/casgliadau/benthyciadau/