Her Caerllion

Mae Amgueddfa ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi ymuno gyda CADW ac AALl Casnewydd, i ddatblygu adnodd amlgyfrwng cynhyrfus ar gyfer ysgolion. Mae'r adnodd yn canolbwyntio ar Faddonau'r Gaer yng Nghaerllion ac mae wedi'i anelu at blant Blwyddyn 3 fel rhan o'u cwricwlwm hanes.

Daw'r adnodd ar ffuf cyflwyniad Microsoft PowerPoint strwythuredig sy'n gofyn i blant i lywio'u ffordd drwy'r tasgau. Mae'r cyflwyniad hefyd yn cysylltu â banc adnoddau amlgyfrwng unigryw a ddarperir gan AOCC a CADW. Mae'r adnodd hefyd yn cynnwys darluniau, ffotograffau, golygfeydd rhithwir a gweithgareddau rhyngweithiol llusgo a gollwng.

Yn ogystal â'r banc adnoddau, mae gan bob tasg ei gyswllt i wefannau a llyfrau hanes perthynnol fydd o gymorth i'r plant i gwblhau'r tasgau. Mae'r adnodd yn cefnogi ymweliad â Chaerllion Rufeinig ac mae gan AOCC nifer o blychau benthyg ar gael i ysgolion sy'n cynnwys ailgreadigaethau o eitemau a ganfyddwyd ym Maddonau'r Gaer.