Digwyddiad:Haf o Hwyl - Bywyd ym Myddin Rhufain
Bron i 2000 o flynyddoedd yn ôl roedd Caer Isca (Caerllion) yn lleoliad pwysig ar ffin gogledd orllewin Ymerodraeth Rhufain. Beth am alw draw i gyfarfod un o filwyr yr Ail Leng Awgwstaidd? Byddan nhw'n dangos eu lifrau, eu harfau a'u hoffer milwrol ac yn disgrifio bywyd bob dydd milwr Rhufeinig ar gyrion yr Ymerodraeth.
Mae'r gweithgareddau yma yn cael eu threfnu gan Amgueddfa Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru fel rhan o fenter Haf o Hwyl, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru
Cymerwch olwg ar yr holl ddigwyddiadau / gweithgareddau Haf o Hwyl:
Gwybodaeth
Ffederasiwn Amgueddfeudd ac Orielau Celf Cymru
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd