Digwyddiad:Haf o Hwyl - Rhufeiniaid Gwenwynig
Wnaeth y Rhufeiniaid unrhywbeth o werth? Rydyn ni'n aml yn rhestru eu gorchestion, fel y draphont ddŵr, baddondai cyhoeddus, ffyrdd ac addysg, ond doedd Ymerodraeth Rhufain ddim yn fêl i gyd.
Roedd rhai o'u gorchestion yn ddrwg iawn i'r amgylchedd, ac i bobl! Galwch draw i ddysgu mwy am y Rhufeiniaid gwenwynig.
Mae'r gweithgareddau yma yn cael eu threfnu gan Amgueddfa Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru fel rhan o fenter Haf o Hwyl, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru
Cymerwch olwg ar yr holl ddigwyddiadau / gweithgareddau Haf o Hwyl:
Gwybodaeth
Ffederasiwn Amgueddfeudd ac Orielau Celf Cymru
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd