Digwyddiad:Saturnalia: Darganfod Traddodiadau Gaeaf Rhufeinig
Camwch yn ôl mewn amser i gwrdd â Rhufeiniwr sy’n paratoi ar gyfer gŵyl ganol gaeaf Saturnalia! Beth oedd yn digwydd yn y dathliadau Rhufeinig hyn? Pa anrhegion oedd pobl yn eu rhoi a’u derbyn? Beth oedden nhw’n ei fwyta? Dewch i brofi Saturnalia, gŵyl llawn traddodiad, crefydd a bwyd!
Tra bod chi yma, cymerwch olwg o amgylch Marchnad Crefft a Bwyd Caerllion yn Neuadd y Dref a mwynhewch garolau o gwmpas y goeden Nadolig.
Rhowch wybod os ydych chi'n bwriadu ymuno a ni!
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd