Digwyddiad:Gŵyl Archaeoleg: Amgueddfa Lleng Rufeinig – Tân

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Wedi'i Orffen

Dewch draw i’n gwersyll i ddarganfod pam roedd tân mor bwysig i’r Rhufeiniaid. Bydd gennym synau ac arogleuon y gwersyll i ddod â’r cyfan yn fyw.

Fe gewch chi ddysgu am grefftau hynafol y gof yn ogystal â bathu darnau arian yn y byd Rhufeinig. 

Gallwch wneud bara Rhufeinig a’i goginio dros dân agored neu geisio cynnau tân eich hun gan ddefnyddio dril bwa. 

Cewch gwrdd â’n milwyr yn y gwersyll hefyd – beth am fentro gamblo gyda Gaius! – a chael hunlun mewn copi o arfwisg Rufeinig.

Cymerwch olwg ar yr holl ddigwyddiadau ŵyl Archaeoleg..

 

 

Gwybodaeth

29 a 30 Gorffennaf 2023, 10am - 4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Teuluoedd
Archebu lle Galw heibio
Gŵyl Archaeoleg: Caerllion – Tân.
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau