Digwyddiadau

Digwyddiad: Gŵyl a Gwledd

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Wedi'i Orffen
12–16 Chwefror 2024 , 11am - 1pm & 2pm - 4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Teuluoedd
Archebu lle Galw heibio

Ymunwch â ni dros hanner tymor i ddysgu mwy am wyliau a gwleddoedd yn y byd Rufeinig.

Beth sydd i’w wneud?

Dewch yn Rhufeiniwr cyfoethog – gwisgwch toga, mwynhewch adloniant Rhufeinig, a galwch am phryd blasus o lygod daear.*

Gwnewch dorch o flodau papur i wisgo i’r wledd, neu ddilyn y daith gwyliau a gwleddoedd o amgylch yr Amgueddfa.

Sganiwch y cod QR i lawrlwytho llyfryn ryseitiau Rhufeinig er mwyn parhau â'ch antur Rufeinig gartref.

*Dim llygod daear go iawn!

Rhagor o Wybodaeth

  • Bydd hwylusydd dwyieithog yn arwain y digwyddiad ddydd Mercher.

  • Mae'r digwyddiad yn addas i deuluoedd ac mae croeso i bawb gymryd rhan! Efallai y bydd angen help ar blant iau i wneud y dorch bapur.
Digwyddiadau