Digwyddiad: Teithiau Dementia-gyfeillgar yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Dim lle ar ôl
Dewch i ddysgu mwy am fywyd yng Nghaerllion oes y Rhufeiniaid.
Mae'r daith yn cynnwys:
- Croeso cynnes mewn gofod pwrpasol.
- Ymweliad ag ail-gread o ystafell Barics Rhufeinig i ddysgu mwy am fywyd llengfilwr.
- Cyfle i weld y gwrthrychau yn yr oriel.
- Diod boeth ac amser am sgwrs mewn gofod pwrpasol.
- Ymweliad â'r ardd Rufeinig i gyffwrdd, arogli a blasu'r perlysiau fyddai'r Rhufeiniaid yn ei ddefnyddio fel moddion.
Gall unrhyw un sydd angen seibiant aros ac ymlacio yn y gofod pwrpasol unrhyw bryd. Mae'r daith i gyd yn yr Amgueddfa, a does dim angen cerdded pellter hir. Mae'r daith yn para tua 2 awr, gyda digon o oedi a lluniaeth.
Mae toiledau hygyrch ar gael yn yr Amgueddfa. Mae'r cyfleoedd hyn yn agored i bobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.