Digwyddiad: Prynhawniau tawel yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Gall llefydd cyhoeddus fod yn straen ac yn llethol i bobl sydd ag anabledd neu anghenion arbennig, a gall hyn achosi gorlwytho synhwyraidd.
Drwy leihau sŵn, goleuadau llachar a rhwystrau eraill gallwn ni greu awyrgylch cynhwysol, diogel, tawel i bobl ei fwynhau. Dewch i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a chrwydro'r Amgueddfa ar brynhawn tawel. Mae pecynnau synhwyraidd ar gael o'r Dderbynfa. Mae toiledau hygyrch ar gael yn yr Amgueddfa.