Digwyddiad: Gwersyll y Fyddin Rufeinig
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Wedi'i Orffen
Beth am alw draw i ymuno â'r Ail Leng Awgwstaidd a chwrdd â milwr?
Cymerwch olwg ar eu lifrau, eu harfau a'u hoffer milwrol a darganfyddwch sut oedd bywyd i filwr Rhufeinig ar gyrion yr ymerodraeth.
Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i fod yn filwr Rhufeinig?
Bydd cyfle hefyd i roi cynnig ar arfwisg Rufeinig a gorymdeithio gan ddefnyddio gorchmynion Lladin.
Gorffennwch eich ymweliad gyda tystysgrif i ddweud eich bod wedi ymuno â'r fyddin Rufeinig.
Mae'r gweithgaredd yma yn para awr.
Ddydd Mercher 27 Mawrth bydd y sesiynau 11am a 3pm yn cael eu cyflwyno yn yr iaith Gymraeg. Croesawu dysgwyr Cymraeg.