Digwyddiadau

Digwyddiad: Cyfleoedd i sgwrsio, cymryd rhan a dysgu am y Rhufeiniaid yn Gymraeg

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
22 Gorffennaf–30 Awst 2024
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Ymunwch â ni i ddarganfod mwy am fywyd y Rhufeiniaid drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Addas ar gyfer dysgwyr, siaradwyr Cymraeg rhugl a rhieni/gofalwyr plant sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwersyll y Fyddin Rufeinig

22 a 23 Gorffennaf 2024, 10.30am-11.30am 11.30am -12.30pm 1.30pm-2.30pm 2.30pm-3.30pm 

£2.50 y plentyn

Beth am alw draw i ymuno â'r Ail Leng Awgwstaidd a chwrdd â milwr? 

Cymerwch olwg ar eu lifrau, eu harfau a'u hoffer milwrol a darganfyddwch sut oedd bywyd i filwr Rhufeinig ar gyrion yr ymerodraeth. 

Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i fod yn filwr Rhufeinig?

Bydd cyfle hefyd i roi cynnig ar arfwisg Rufeinig a gorymdeithio gan ddefnyddio gorchmynion Lladin. 

Gorffennwch eich ymweliad gyda tystysgrif i ddweud eich bod wedi ymuno â'r fyddin Rufeinig.

Mae'r gweithgaredd yma yn para awr. Archebwch wrth gyrraedd.

Dwylo ar y Gorffennol

23 a 30 Awst 10.30am-12.30am & 1.30pm-3.30pm 

AM DDIM 

Cewch ddysgu mwy am fywyd yn y gaer dros yr haf, a chael trin a thrafod gwrthrychau Rhufeinig go iawn.

Sesiynau galw heibio - dim angen archebu.

Gladiatoriaid

28 Awst, 10.30am-11.30am 11.30am -12.30pm 1.30pm-2.30pm 2.30pm-3.30pm 

£2.50 y plentyn

2,000 o flynyddoedd yn ôl, y gladiatoriaid oedd sêr chwaraeon yr Ymerodraeth Rufeinig.  Roedd pobl o bob rhan o’r gymdeithas Rufeinig yn mynd i’w gwylio, gan gynnwys milwyr Caerllion.  

Galwch draw i’n ludus, ysgol hyfforddi gladiatoriaid. Cewch ddysgu ymladd a dod i wybod mwy am yr offer a bywydau’r ymladdwyr ffyrnig hyn. 

Archebwch wrth gyrraedd

Ymunwch â ni i ddarganfod mwy am fywyd y Rhufeiniaid drwy gyfrwng y Gymraeg. Addas ar gyfer dysgwyr, siaradwyr Cymraeg rhugl a rhieni/gofalwyr plant sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Digwyddiadau