Digwyddiad:Duwiau, Arwyr ac Angenfilod: Dewch i fod yn Arwr!

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Wedi'i Orffen

Roedd byd mytholegol Rhufain a Groeg yn llawn arwyr ac arwresau oedd yn ymladd yn erbyn angenfilod dychrynllyd ac yn mynd ar deithiau cyffrous.  Cymerwch ran yn ein llwybr gweithgaredd lle byddwch chi'n ateb cwestiynau, cwblhau ras rwystrau ac yn profi eich sgiliau ymladd i weld os oes gennych chi'r gallu i fod yn arwr. 

Cynhelir sesiwn ddwyieithog ddydd Mercher 29 Hydref am 2.30pm

Yn yr hen fyd, roedd gan bobl Rhufain a Groeg storïau am dduwiau, duwiesau a bwystfilod. Roedd llawer o’r storïau, neu chwedlau hyn yn esbonio sut oedden nhw’n meddwl oedd y bydysawd yn gweithio. Roedden nhw’n credu fod y duwiau a’r duwiesau yn gyfrifol am bopeth – yr haul, y cynhaeaf... hyd yn oed y gwin!

Gwybodaeth

29–31 Hydref 2025, 10.30am, 11.30am, 1:30pm & 2:30pm
Pris £3/plentyn
Addasrwydd Teuluoedd
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Mwy o gynnwys

Oedrannau: Cam 3 (Oed 8–11)
Oedrannau: Cam 2 (Oed 5-8), Cam 3 (Oed 8–11)

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau