Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Amgueddfa Cymru. Rydym am i gymaint o bobl ag y bo modd allu defnyddio'r wefan hon. Mae canllawiau mynediad wedi bod yn rhan o gynllun a datblygiad y wefan hon o'r cychwyn cyntaf. Rydym hefyd wedi cynnal sawl sesiwn brofi gydag ystod eang o ddefnyddwyr. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor hawdd â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Os oes angen gwybodaeth arnoch o'r wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille:
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan wedi cael ei hasesu gan Wasanaethau Hygyrchedd Ymddiriedolaeth Shaw ac wedi cael ei phrofi gan bobl ag ystod eang o anableddau i amlygu rhwystrau hygyrchedd a allai fod yn bresennol, a gweithredu datrysiadau i ddarparu cynnwys cynhwysol.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.
Nid yw'r cynnwys wedi'i rhestru isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Nid oes gan rai delweddau ddewis arall o destun, felly ni all pobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin gael mynediad at y wybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.1.1 (cynnwys di-destun) yn WCAG 2.2.
Rydym yn bwriadu ychwanegu testun amgen ar gyfer pob delwedd erbyn Rhagfyr 2024. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau yn bodloni safonau hygyrchedd.
Paratowyd y datganiad hwn ar 29 Medi 2014. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 28 Chwefror 2024.
Mae tudalennau'r wefan yr ymwelir â hwy amlaf yn cael eu profi i safon WCAG 2.1 AA o bryd i'w gilydd gan ein tîm gwefan gan ddefnyddio offer profi awtomataidd. Cynhaliwyd archwiliadau pellach o’r wefan hon gan Accessible By Design ym mis Chwefror 2022, ac fel rhan o archwiliad gwefan ehangach gan One Further ym mis Mawrth 2022.