Arddangosfa:Gwaith Tun
Ffurfiwyd Cwmni Dur Cymru Cyf yn 1947 a dechreuwyd adeiladu ar Waith Trostre yn Llanelli. Daeth y tunplat rholio cyntaf oddi ar y llinell yng Ngwaith Tun Trostre ym mis Hydref 1951. Yn y 1800au daeth Llanelli yn ganolbwynt i ddiwydiant tunplat y byd a chael ei hadnabod fel ‘Tinopolis.’ Parhaodd Gwaith Trostre â’r llinach hwnnw, gan gynhyrchu tua 400,000 tunnell o dun, crôm. a duroedd wedi'u gorchuddio â pholymer ar gyfer y diwydiannau pecynnu bob blwyddyn.
Mae’r artist Hilary Powell wedi gweithio ar y safle yn tynnu lluniau o’r Gweithfeydd trwy biniau ffotograffiaeth a’r bobl sy’n ei gadw i fynd gan ddefnyddio’r tunplat i greu’r portreadau hyn. Ysgogwyd y gwaith hwn gan linach deuluol yr artist o weithwyr tun Cymreig ac mae’n parhau â’i diddordeb mewn metelau a deunyddiau ac adfywio technegau hanesyddol. Mwy am hyn a phrosiectau eraill yn www.hilarypowell.site
Gyda diolch i
Peter O’Donnell, Ffotogallery, Amgueddfa Cymru, Colwinston Trust a Worshipful Company of Tin Plate Workers
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
Bydd ein horiau agor yn newid dros y gaeaf.
O ddydd Llun 4 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10yb-4yp bob dydd.
Parcio
Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.
Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Mynediad
Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.
Canllaw MynediadMap safle
Lawrlwythwch map o’r safleLleoliad
Bwyta, Yfed, siopa
- Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd