Digwyddiadau

Digwyddiad: Diwrnod Chwarae Cenedlaethol

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
3 Awst 2022, 11am - 2pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Teuluoedd

Adar Diwrnod chwarae

Dewch i godi to'r Amgueddfa ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol!

Yn cynnwys:
- Sgiliau syrcas a gemau gan Circus Eruption, gan gynnwys pêl Daear enfawr a gemau parasiwt

- Celf a chrefft

- Adeiladu ffau

- Cymeriadau ar grwydr

- Paentio wynebau

- Amser odli yn Gymraeg

- Gweithgareddau synhwyrus a lles

- Stondinau gwybodaeth

- Cerddoriaeth fyw

...a diweddglo llawn conffeti!

Mae pob gweithgaredd am ddim.
Mewn partneriaeth â Thîm Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Abertawe a Phartneriaid Chwarae

Diwrnod Chwarae Cenedlaethol – Awr Dawel - 10am - 11am

Cyfle i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol i blant sy'n mwynhau amser tawelach a mwy llonydd.

Mae pob gweithgaredd am ddim.

 

Digwyddiadau