Digwyddiadau

Arddangosfa: Brenhinoedd Tanddaearol

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
5 Hydref 2022 – 19 Mawrth 2023
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Brenhinoedd Tanddaearol

Mae "Vision Fountains Kings of The Underground" yn dal atgofion a ffisiognomïau (nodweddion wyneb) y genhedlaeth ddiwethaf o lowyr Cymreig.

 

Roedd glowyr Cymru’n gweithio yn un o’r ardaloedd oedd yn cael ei gloddio fwyaf dwys ar y ddaear ac yn cynhyrchu glo gorau’r byd a helpodd i yrru’r chwyldro diwydiannol.

 

Tynnwyd llun glowyr sydd wedi goroesi a’u perthnasau gan ddefnyddio proses o’r enw ffotogrametreg, sy’n trosi delweddau dau ddimensiwn yn bortreadau tri dimensiwn.

 

Mae’r canlyniadau yn bortreadau digidol 3D unigryw ynghyd â straeon yn eu lleisiau eu hunain o’r glowyr a’u perthnasau. Mae gweithiau celf ysgolion hefyd wedi cael eu cynhyrchu trwy weithdai a ysbrydolwyd gan straeon y glowyr a theuluoedd.

 

Roedd y prosiect yn bosibl gyda chyfraniadau hael gan staff Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Pharc Treftadaeth Cwm Rhondda.

 

Mae’r prosiect wedi’i gefnogi a’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i holl Chwaraewyr y Loteri.

Digwyddiadau