Digwyddiad:PRIDE Bach

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Dathlwch Pride Bach yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae croeso i bawb i’r rhaglen hwyliog hon i’r teulu cyfan i ddathlu bod yn hapus, yn falch ac i ymfalchïo ym mhwy ydych chi. 

Yn cynnwys:

• Twmpath bach gyda Tawerin

• Picnic Teuluol - 1yp

• Cymeriadau

• Paentio wynebau

• Crefftau enfys

• Gorymdaith fach

• Disco Tawel i blant

• Swigod, Conffeti a mwy!

"Fel perfformiwr ond hefyd fel tad i ddau o bobol ifanc, dwi'n teimlo mor hapus a balch for Amgueddfa'r Glannau yn agor eu gofod i ddigwyddiad Pride LHDTC+. Mae'n golygu fod pawb yn medru dathlu'n gwahaniaethau a'r hyn sy'n ein uno, a theimlo bo croeso ym mhob fath o ofod. Dwi'n teimlo'r gobaith mwyaf am y dyfodol wrth weld teuluoedd yn dod i ddathlu, wrth feddwl am y genhedlaeth nesa'n tyfu fyny'n teimlo'r hyder i fod pwy ydyn nhw a mynegu'u hunain yn agored, i gefnogi a pharchu eu hunaniaeth nhw a'r bobol o'u cwmpas. Gan Alun a gan Connie Orff xx"

Byddwch yn ymwybodol bod y digwyddiad hwn yn dathlu PRIDE Abertawe, a gofynnwn i chi ddangos parch a goddefgarwch fel y gall pawb fwynhau'r digwyddiad.

Ni fydd ymddygiad ymosodol neu sarhaus yn cael ei oddef ac efallai y gofynnir i chi adael ein hamgueddfa.

 

Gwybodaeth

19 Mai 2024, 12 - 3pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Teuluoedd
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau