Sgwrs:PRIDE Cornel y Siaradwyr: Sgwrs gyda Mike Parker – On the Red Hill.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Dewch i glywed gan yr awdur Mike Parker wrth iddo ddarllen o’i lyfr gwych On the Red Hill. Bydd cyfle hefyd i weld rhywfaint o’r dogfennau yn ymwneud â’r llyfr, y mae wedi’i roi i Amgueddfa Cymru at ein casgliad LHDTC+.

Bydd Mike yn sgwrsio gyda churadur casgliad LHDTC+ yr Amgueddfa, a bydd cyfle i chi ei holi eich cwestiynau chi hefyd. 
 
 

 
Mae Mike Parker wedi ysgrifennu sawl llyfr, yn ogystal â rhaglenni teithio ar gyfer teledu a radio. Roedd ei lyfr diwethaf On the Red Hill yn archwilio bywyd cwiar a chefn gwlad. Enillodd wobr am y llyfr ffeithiol gorau yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru, a daeth yn ail am y Wainwright Prize, gwobr i lyfrau natur o Brydain. ⁠⁠Ymysg ei lyfrau eraill mwyaf poblogaidd mae Map Addict, a’i ddilyniant The Wild Rover, Neighbours From Hell? am y berthynas rhwng Cymru a Lloegr, a The Greasy Poll, dyddiadur ei ymgyrch i ddod yn aelod seneddol Ceredigion. ⁠⁠Caiff ei lyfr diweddaraf, All the Wide Border, ei gyhoeddi’r gwanwyn hwn, ac mae’n edrych ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr – ar y map ac yn y meddwl. ⁠⁠
 
www.mikeparker.org.uk
@mikeparkerwales
 

Yn anffodus, oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth, mae PRIDE Abertawe wedi’i symud i Neuadd Brangwyn ar gyfer 2023.

 

Dewch o hyd i ni yng Nghornel yr Amgueddfa.

Gwybodaeth

29 Ebrill 2023, 3pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau