Digwyddiadau

Digwyddiad: Sioe y Môr

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
29 Hydref 2023 , 10.30am - Cymraeg, 11.30am - Saesneg
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedran 5+ oed

Archebu tocyn

10.30am - Iaith - Cymraeg

11.30am - Iaith - Saesneg

Ymunwch â ni ar daith sy'n mynd â ni o'r riffiau cwrel deniadol i'r dyfnderoedd tywyll tanodd, lle byddwn ni'n gweld pysgod sy'n goleuo yn y tywyllwch a llwythi o greaduriaid rhyfedd ar y ffordd.

 
Gyda dros 70% o arwyneb ein planed wedi'i orchuddio gan gefnfor byd-eang anferth, mae'n rhan hynod bwysig o ecosystem y ddaear ac yn llawn bywyd.
Cawn ddysgu mwy am y ffordd mae ein moroedd yn newid a beth allwn ni gyd ei wneud i helpu i warchod yr amgylchedd tanddwr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Sylwer - Mae'r sioe hon yn cynnwys synau mawr a chleciau!
Cyflwynwyd gan Techniquest
 
Addas i bawb, oedran 5+ oed
Nodwch: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.
 
Hyd - 25 munud

Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)

Digwyddiadau