Digwyddiad:Gwyddoniaeth Afiach
Gwyddoniaeth ar ei fwyaf ffiaidd yng nghwmni Stefan Gates! Mae ei sioe newydd yn rhoi sylw i holl bethau mwyaf afiach (ond hanfodol!) ein cyrff!
Bydd plorod, torri gwynt, rhechfeydd, baw trwyn, crachod, pi-pi, chwd, gwaed, chwys a dagrau, oll yn dod yn fyw gyda styntiau, rocedi, peiriannau rhechan, peiriannau tisian a phenolau enfawr.
Mae Stefan Gates yn enwog am ei sioeau gwyddoniaeth a bwyd o safon ryngwladol.
Sylwer - Mae'r sioe hon yn cynnwys synau mawr a chleciau!
Addas i bawb, oedran 6+ oed
(Bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.)
Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd