Digwyddiad:Y Sefydliad Brenhinol yn cyflwyno... Celloedd Clyfar

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Archebu tocyn

Beth sy'n ein gwneud ni'n sâl? Pam fod pob un ohonon ni'n sâl weithiau? Dilynwch gyflwynydd yr RI ar daith yn ddwfn i'n celloedd i weld sut mae bacteria a firysau yn ymosod ar ein cyrff ac yn ceisio cymryd drosodd, ac yn bwysicach, sut allwn ni ymladd nôl? 

O feddyginiaeth hynafol i wyrthiau modern, byddwn ni'n dangos sut mae gwyddoniaeth yn cefnogi a gwella amddiffynfeydd naturiol ein cyrff. O'r gwrthfiotig a'r brechlyn, i ddyfodol lle gallwn ni hyfforddi'r corff i wella o unrhyw afiechyd bron!

Sylwer - Mae'r sioe hon yn cynnwys synau mawr a chleciau!

Addas i bawb, oedran 7+ oed    
(Bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.)

Cynnig Arbennig – Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau â thâl i arbed 30%!

Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)

 

https://fy.amgueddfa.cymru/14430

Gwybodaeth

29 Hydref 2023, 2pm
Pris £3yp
Addasrwydd Addas i bawb, oedran 7 +
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Oriau Agor

O ddydd Llun 4 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm bob dydd.

Nadolig a'r Flwyddyn Newydd: Ar gau 24-26 Rhagfyr a 1 Ionawr. 

Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau