Arddangosfa: Blasau Cymunedol Abertawe
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Bwyd! Mae'n dod â ni i gyd at ein gilydd.
Mae prosiect Blasau Cymunedol Abertawe yn dod â menywod o ystod eang o wledydd a diwylliannau at ei gilydd drwy'r CGGA a grŵp Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Abertawe.
Bob wythnos yn ystod y prosiect roedd y menywod yn cymryd eu tro i ddewis pryd i'w goginio o'u mamwlad gan ddefnyddio cynhwysion a dyfwyd yng ngardd GRAFT.
Trwy ddysgu, siarad a bwyta darganfu'r merched y gwahaniaethau, ac yn bwysicach fyth y tebygrwydd rhwng eu diwylliannau. Dysgwch am y bwydydd blasus, ewch â rysáit adref gyda chi i driodweud wrthym pa bryd sy'n arbennig i'ch teulu.
Mewn partneriaeth â:
- Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (CGGA)
- Grŵp Merched Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Abertawe
- PCYDDS
- Shared Plate
- Bwrdd Iechyd Abertawe
- GRAFT