Digwyddiadau

Sgwrs: Ar Draws Cefn y Ddraig - Gyda Ben Garrod

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
26 Mai 2024, 3.30pm
Pris Talwch Beth Allwch Chi £1 /£3 / £5
Addasrwydd Oedolion

Archebu tocyn

Mae dyn cyffredin yn cymryd ras anghyffredin.

Bu gwyddonwyr chwaraeon Prifysgol Abertawe, Laura Mason a Nick Owen, yn dilyn y cyflwynydd teledu, biolegydd esblygiadol ac ambell redwr 10k Ben Garrod wrth iddo hyfforddi a cheisio ras 380km Dragon’s Back ar draws copaon Cymru o Gonwy i Gaerdydd.
Fel cyd-wyddonydd, roedd Ben Garrod yn fodlon i gymryd rhan mewn cyfres o brofion cyn, yn ystod ac ar ôl y ras, gan gynnwys gweithrediad y cyhyrau, profion gwybyddol, a samplu gwaed ac wrin dyddiol.
Roedd yn gyfle prin i astudio effeithiau gweithgaredd eithafol ar y corff dynol.
Ymunwch â Ben, Laura a Nick i ddarganfod sut hwyl a gafodd a beth sydd ei angen i gwblhau her mor epig.

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.

Digwyddiadau arall yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Ultimate Dinosaurs (museumwales.ac.uk)

Bydd yr holl roddion i'r digwyddiad hwn yn cefnogi achosion am gefnogaeth Ymgyrch Gwneud Camau Breision Dros Iechyd Meddwl Prifysgol Abertawe.

Digwyddiadau