Arddangosfa: Cymru ar y Ffordd
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

O'r oesoedd canol hyd heddiw, darganfyddwch sut mae ffyrdd wedi chwarae rhan hanfodol yng Nghymru.
Datgelwch y stori am sut mae teithio ar y ffyrdd wedi esblygu a newid dros y blynyddoedd a'r effaith y mae hynny wedi'i chael ar y cymunedau a'r tirwedd.
Darganfyddwch sut mae cwmnïau a phrifysgolion Cymru yn datblygu ffyrdd glanach, gwyrddach o deithio a'r hyn y gallwn ei wneud i helpu i leihau newid yn yr hinsawdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Beth ydych chi'n meddwl fydd dyfodol teithio ar y ffyrdd yng Nghymru?