Digwyddiadau

Digwyddiad: Paentio ar y Cyd Dydd San Ffolant

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
14 Chwefror 2024, 7pm
Pris £25 yp, neu ddau ar gyfer £45
Addasrwydd Oedolion

Archebu tocyn

Rydyn ni wrth ein boddau o’n partneriaeth â The Paint Along Lady ac o gyflwyno’r digwyddiad Hwyrnos arbennig hwn.

Mae The Paint Along Lady wedi bod yn denu sylw ledled Cymru, ac mae’n bleser gennym ni ei chroesawu hi i’n Hamgueddfa hardd.

Nid celf gain yw hyn, celf ‘gai neud fel hoffai’ ydyw! Rhowch gynnig ar rywbeth newydd a chreu campwaith. Nid oes angen unrhyw brofiad o baentio.

Ar gyfer Dydd Sant Ffolant eleni, dewch i greu atgofion gyda’ch gilydd, yn ogystal â phaentiad hardd! 

Gyda’r opsiwn o ychwanegu potel o brosecco wrth gyrraedd, dyma noson berffaith i ddathlu Dydd Sant Ffolant, boed gyda’ch cariad neu’ch ffrindiau...neu’r ddau! Ymunwch â The Paint Along Lady am sesiwn paentio ar y cyd hawdd i’w ddilyn.

Digwyddiadau