Digwyddiad:Diwrnod Y Ddaear – Cyfneiwd Hadau, Sgwrs a mwy!

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Ymunwch a ni yng ngardd GRAFT yr amgueddfa am brynhawn arbennig I  ddathlu Diwrnod y Ddaear

Yn cynnwys: 

  • 1 - 2pm Cyfnewid Hadau a Hadblanhigion - gyda GRAFT, Incredible Seed Library a Wales Seed Hub. Cyfnewidiwch eich hadau eich hun neu cyfranwch at y casgliad. 
  • 2yp - Sgwrs –  Seeds to share - How to save Open Pollinated seeds, Ymunwch a Maggie Carr o gwmpas y tan  (Incredible Seed Library a Wales Seed Hub)  
  • 1  - 3yp Sesiwn Gwneud a Chymryd i Blant– plannwch hadau blodau’r haul mewn pot eco-gyfeillgar wedi ei wneud a llaw.
  • 1 – 3yp – GRAFT Bach – ar gyfer plant bach. Bydd Cae Tan yn arwain chwarae dan arweiniad plant i archwilio a chysylltu â natur. Mae Graft Bach yn gobeithio ysbrydoli teuluoedd i dreulio mwy o amser gyda'u gilydd y tu allan a sbarduno diddordeb mewn tyfu bwyd cynaliadwy.

  • 1 – 3yp – Gwenyn GRAFT – Dewch i gwrdd â gwenynwr GRAFT Alysson Williams a fydd yn rhannu ei gwybodaeth epig am wenyn. Mae Alysson hefyd yn rhedeg rhaglen sy'n dysgu sgiliau gwerthfawr i bobl ifanc wrth ofalu am y gwenyn sydd wedi'u lleoli yng Ngardd GRAFT.

Os bydd y tywydd yn wlyb  gallwn fynd â'r gweithgareddau y tu mewn i'r amgueddfa.

 

Gwybodaeth

21 Ebrill 2024, 1 - 3pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau