Digwyddiadau

Digwyddiad: Creu Gyda Cardfwrdd

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
25 Gorffennaf, 1 a 8 Awst 2024 , 12pm a 2pm
Pris £2.50 y plentyn
Addasrwydd Oed 7+
Archebu lle Tocynnau

Archebu tocyn

Ymunwch â XL Cymru ar gyfer y sesiynau hyn i droi bocsys cardbord yn greadigaethau cŵl!

Bydd y gweithdy hwn yn defnyddio Makedo - offer syml sy'n hwyluso creu rhywbeth newydd o gardbord uwch-gylchred, technoleg isel, gyda phosibiliadau diddiwedd!

Dysgu ymarferol yw Makedo sy'n meithrin dylunio, adeiladu a datrys problemau.

7+ oed

Sylwch y bydd angen i bob plentyn ddod â 3-4 bocs bob sesiwn (o flychau grawnfwyd i flychau dosbarthu)

 

Digwyddiadau