Digwyddiad: Paentio ar y Cyd - Cyhydnos yr Hydref
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dim lle ar ôl
Rydyn ni wrth ein boddau o’n partneriaeth â The Paint Along Lady ac o gyflwyno’r digwyddiad Hwyrnos arbennig hwn.
Ymunwch â ni am sesiwn Paentio ar y Cyd wrth i ni ddathlu Cyhydnos yr Hydref.
Dewch fel cwpwl neu gyda ffrindiau am noson llawn paentio, cerddoriaeth a chwerthin.
Nid celf gain yw hyn, celf ‘gai neud fel hoffai’ ydyw! Rhowch gynnig ar rywbeth newydd a chreu campwaith. Nid oes angen unrhyw brofiad o baentio.
Mae The Paint Along Lady wedi bod yn denu sylw ledled Cymru, ac mae’n bleser gennym ni ei chroesawu hi i’n Hamgueddfa hardd.
Sylwer, mae hon yn sesiwn paentio ar y cyd i bobl 16+.