Digwyddiad:Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Taith o oriel ‘Gwnaed yng Nghymru’ wedi’i arwain gan Guradur a sesiwn ‘One Heart Drumming’
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wrth i ni archwilio rhai o’r gwrthrychau yn ein oriel ‘Gwnaed yng Nghymru’ a’r casgliad trin a thrafod. Ar ôl hyn bydd sesiwn drwmio, wedi’i arwain gan One Heart Drummers.
Oriel ‘Gwnaed yng Nghymru’: Gwnaed yng Nghymru | Museum Wales
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Croeso cynnes
- Cyfle i grwydro a mwynhau un o'r orielau a chasgliadau
- Cyfle i fwyhau gweithgaredd creadigol ysgafn
- Diod gynnes a sgwrs
Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le. Mae'r sesiwn yn para tua 2.5 awr, gydag egwyl a lluniaeth.
Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Mae'r cyfleoedd hyn yn agored i bobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.
Rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu lle, cliciwch ar y blwch ‘Archebu Tocynnau’ i’r dde. Neu gallwch chi ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio'n broblem.
Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.
Gwybodaeth
Tocynnau
Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
---|---|---|
28 November 2024 | Sold Out |