Digwyddiad:Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Nadolig
Nadolig yn Amgueddfa y Glannau
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i fwynhau cwpwl o oriau ar thema Nadolig gyda Shared Plate (Cegin Gymunedol sydd wedi’i seilio yn Abertawe), sawl gwrthrych o’n casgliad trin a thrafod a gweithgaredd crefft ysgafn
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
- Cyfle i fwyhau gweithgaredd crefft /creadigol ysgafn
- Diod gynnes a sgwrs
Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le. Mae'r sesiwn yn para tua 2.5 awr, gydag egwyl a lluniaeth.
Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Mae'r cyfleoedd hyn yn agored i bobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.
Rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu lle, cliciwch ar y blwch ‘Archebu tocynnau’ i’r dde. Neu gallwch chi ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio'n broblem.
Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.
Gwybodaeth
Tocynnau
Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
---|---|---|
19 December 2024 | 13:30 | Gweld Tocynnau |