Digwyddiad:Noson Swper Cynhaeaf GRAFT

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Ymgasglwch gyda ni yng ngwres y tân, am brofiad swper unigryw o dan y sêr. 

Yn swatio ymhlith gwelyau toreithiog yr ardd, byddwn yn gwledda ar blatiau rhannu wrth i ni ddathlu dyfodiad yr haf ac ysbryd cymuned. 

Noson yn llawn bwyd seiliedig ar blanhigion tymhorol blasus, cerddoriaeth fyw hudolus, a chelfyddyd fyw gyfareddol 

Bydd y cwrs olaf yn cael ei weini ger y tân, i godi’n calonnau ac i sbarduno sgyrsiau newydd. (Bydd cyflenwad da o falws melys hefyd.) 

 

....Tywydd gwlyb? Dim problem! Bydd y digwyddiad yn symud dan do i golonâd yr amgueddfa (lle mae ei naws ddiwydiannol yn tystio i’r ffaith ei fod unwaith yn seidin rheilffordd) 

Bwydlen

Hwmws ffa llydan a phersli gyda bruscetta tomato gardd GRAFT

Corbwmpen rhost gyda cyrri cnau coco a choriander

Salad Albo Gobi (tatws a blodfresych)

Colslô tanllyd

Cawl ffa dringo ac ocra sbeislyd

Dail gwyrdd

Cobbler afal ac eirin gwlanog gyda hufen chantilly

Tocynnau  - Mae prisiau’r tocynnau ar gyfer y swper hwn yn amrywio. Dewiswch y pris sydd fwyaf addas ar gyfer eich amgylchiadau.

£26 – Safonol 

£18 - Hygyrch 

Gwybodaeth

19 Medi 2025, 6.30pm - 9.30pm
Pris £26 – Safonol, £18 - Hygyrch
Addasrwydd Oedolion
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau