Digwyddiad:Arnie’s Flute ‘n Veg gydag Angie Roberts

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
Mae Arnie Williams yn benderfynol o gael ei hun yn y Guinness Book of Records drwy greu’r Gerddorfa Lysiau Gardd fwya yn yr holl fyd! Ond beth os ydi’r Whisls Moron, y Trwmpedi Winiwns a’r Drymiau Melons yn troi i mewn i gawl ychafi meddal? Mae hi mor anodd gwneud i freuddwyd Mam am dorri’r Record ddod yn wir ….
 
Ffeindiwch ymhle, pryd, sut ac - ocê ‘te, pam fod gan Arnie gymaint o obsesiwn am lysiau cerddorol. A wedyn gewch chithe wneud eich chwibanau afal eich hunain. A wedyn pawb i chwythu nodau‘r gân rygbi Gymraeg enwog honno, ‘Sosban Fach’. “Mae hyn,” fel y dwedodd athro dosbarth Arnie gyda gwên hapus, “yn rhoi ystyr newydd llwyr i’r dywediad chware gyda’ch bwyd!”
 

Angie Roberts 

Enillydd Gwobr Llenyddiaeth Plant Tir na n'Og 2025, ac yn sgriptiwr ar gyfer sawl raglen teledu i blant, gan gynnwys y gyfres a enillodd BAFTA Cymru Jini a'r rhaglen ffuglen wyddonol yr enwebwyd am BAFTA Prydeinig, Cabaret Quazar. 

 

...Ar gyfer rhaglen llawn yr Wŷl, ewch i: Gwyl Llenyddiaeth Plant a Phobl Ifanc 2025 

Gwybodaeth

4 Hydref 2025, 10:15am - 11am
Pris Galw heibio - AM DDIM, Digwyddiadau - £0 - £5
Addasrwydd Teuluoedd
l
l
lit
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau