Digwyddiad:Hanes Ffeministaidd gyda Kate Mosse

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad llawn ysbrydoliaeth gyda'r awdur sy’n dra phoblogaidd yn rhyngwladol a Chyfarwyddwr a Sefydlydd Gwobrau'r Menywod, Kate Mosse, wrth iddi rannu cipolwg o'i llyfr ffeithiol arloesol newydd, Feminist History for Every Day of the Year.
 
Mae'r casgliad hwn, sydd â darluniau cyfoethog, yn dathlu 366 o fenywod a merched rhyfeddol - un ar gyfer pob dydd o'r flwyddyn - y mae eu dewrder, eu creadigrwydd a'u gweledigaeth wedi llunio hanes. O'r arloeswyr rydych chi'n eu hadnabod - Mary Wollstonecraft, Malala Yousafzai, Simone Biles a Sophie Scholl - i arloeswyr, gweithredwyr ac arwyr anenwog, bydd Kate yn rhannu straeon pwerus ledled y byd a thrwy gydol hanes.
 

Kate Mosse 

Nofelydd, dramodydd, perfformiwr, cyfwelydd, awdur hanes a hunangofiant arobryn a  

Chyfarwyddwr a Sylfaenydd y Wobr am Ffuglen gan Fenywod a'r Wobr Menywod am Lyfr Ffeithiol. Enillodd Mosse Wobr gyntaf Gwobrau Llyfrau Prydain am Effaith Gymdeithasol i ddathlu Allen Lane yn ogystal â CBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin 2024. 

...Ar gyfer rhaglen llawn yr Wŷl, ewch i: Gwyl Llenyddiaeth Plant a Phobl Ifanc 2025 

Gwybodaeth

4 Hydref 2025, 11.30am - 12.15pm
Pris Galw heibio - AM DDIM, Digwyddiadau - £0 - £5
Addasrwydd Oed 12+
l
l
lit
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau