Digwyddiad:Gwyddoniaeth Siop Losin

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Ymunwch â'r gwyddonydd a'r ffisegydd bwyd, Chris Clarke, ar daith llawn lliw a llanast wrth ddysgu mwy am wyddoniaeth ein hoff fwydydd melys. O siwgr syfrdanol i arogleuon amheus, o'r sur i'r synhwyrus a llawer mwy – bydd rhywbeth yma at ddant pawb. Bydd cyfle i greu arbrofion cyffrous a blasu digon o ddanteithion wrth i Dr Chris gymysgu, rholio, malu a ffrwydro ei ffordd drwy ei gegin losin.

 
Hyd 45 - 60 munud
 
Sylwer: bydd oedolion a phlant angen tocynnau ar gyfer y sioe hon.
 
Cynnig arbennig - Archebwch 3 neu fwy o ddigwyddiadau lle codir tâl yn eich basged docynnau i arbed 30%!
 
Ar gyfer rhaglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ewch i Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe - Prifysgol Abertawe
 

Gwybodaeth

26 Hydref 2025, 10.30am
Pris £3.50yp
Addasrwydd Oed 7 - 99
f
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau