Arddangosfa:Cymru: Cartref oddi Cartref

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen

Dros y 18 mis diwethaf, mae Vision Fountain wedi ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru ar brosiect amlgyfrwng sy’n amlygu amrywiaeth diwylliannol Cymru.

Mae’r unigolion yma yn feddwl am Gymru fel “cartref”, ac mae ganddyn nhw storïau nodedig i’w rhannu. Iddyn nhw, Cymru yw Cenedl Noddfa, sy’n cynnig lle diogel i’w teuluoedd.

Er bod yr arddangosfa yn dathlu ein diwylliant amrywiol ac adegau o lawenydd, mae e hefyd yn archwilio atgofion poenus - straeon o drawma, dadleoliad, a’r sialensiau sy’n dod gydag adeiladu bywyd newydd mewn gwlad anghyfarwydd.

Trwy blethu eu lleisiau a lluniau, mae’r arddangosfa yn amlygu pam mae Cymru yn Genedl Noddfa a sut mae ei hysbryd croesawgar yn parhau i siapio bywydau pobl o dros y byd i gyd.

Gwybodaeth

11 Hydref 2025
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau