Treftadaeth Ddiwydiannol Abertawe

Amgueddfa Abertawe

Agorodd Amgueddfa Abertawe ym 1841, a hi yw amgueddfa hynaf Cymru. Fe'i sefydlwyd gan Sefydliad Brenhinol De Cymru, a sefydlwyd ym 1835. Ers 1990, mae'r Amgueddfa wedi bod yng ngofal Dinas a Sir Abertawe.

Mae'r Amgueddfa'n gweithredu: y Pontŵn yn y Marina, Canolfan y Dramffordd yn Sgwâr Dylan Thomas a'r Amgueddfa ei hun.

Mae gan yr Amgueddfa lyfrgell hanesyddol sy'n cyfeirio at y casgliadau hefyd. Yn y llyfrgell mae casgliad o lyfrau ac effemera sy'n dyddio nôl i'r 19eg ganrif ac mae staff arbenigol wrth law i roi cymorth a chyngor. Rhaid trefnu apwyntiad i ddefnyddio'r llyfrgell gyfeirio ac ni ellir benthyg y llyfrau.

Amserau agor

Amgueddfa Abertawe: Maw i Sul 10am–5pm a dydd Llun Gŵyl y Banc.

Llyfrgell yr Amgueddfa: Trwy apwyntiad yn unig.

Canolfan Gasgliadau’r Amgueddfa, Glandŵr: dydd Mercher 10am-4pm

Y llongau hanesyddol yn y Marina: yn dibynnu ar y tymor neu trwy apwyntiad.

Canolfan y Dramffordd: yn dibynnu ar y tymor neu trwy apwyntiad.

I gysylltu

(01792) 653763

Swansea.museum@swansea.gov.ukhttp://www.swanseamuseum.co.uk/?lang=cy

Cyfeiriad

Victoria Road
Abertawe
SA1 1SNM