Creu a Gwneud

Celf Wlanog

Mwynhewch liwio llun efo gwahanol fathau o wlân sydd gyda chi gartref.

Bydd angen:

  • Papur / Cerdyn
  • Pensil
  • Glud
  • Siswrn
  • Gwahanol fathau o wlân
  • Ffelt
  • Pensiliau / pens lliw
  • Unrhyw beth arall i wneud eich llun e.e. pren lolipop

Cyfarwyddiadau:

1. Tynnwch lun bras efo pensil. All fod yn syml neu yn gymhleth iawn.

2. Torrwch eich gwlân mewn i ddarnau byr, mae’n haws i ddefnyddio.

3. Rhowch glud ar y papur, PVA, copdex neu pritstick yn gweithio.

4. Gludiwch y gwlân i’r papur, wrth roi’n agos all creu bloc o liw.

5. Os nag oes wlân rydd gyda chi, allech chi ddefnyddio brwsh anifail a chribo’r gwlân yn rhydd, mae’n gweithio ar ffelt hefyd.

6. Mwynhewch chwarrau gyda siapiau a lliwiau.

Llun o dŷ ar fryn gyda choeden a defaid, wedi'i wneud o grafiadau o wlân a ffelt
Amgueddfa Wlân Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch 0300 111 2 333

Adnoddau

Cyffredinol

Celf Wlanog