Gweithgaredd Addysg

Cam 2: Diwrnod plannu

Gofynnwn i ysgolion blannu eu bylbiau ar yr un dyddiad oherwydd bod hyn yn helpu i gadw amodau'r ymchwiliad yr un fath, sy'n bwysig er mwyn sicrhau prawf teg. Bydd rhai ysgolion ar wyliau ar ddiwrnod plannu. Os na allwch blannu ar y dyddiad hwn, plannwch mor agos â phosibl at y dyddiad hwn. Nodwch y dyddiad y gwnaethoch chi blannu wrth roi eich sylwadau tywydd cyntaf. 

Cofiwch dynnu lluniau / fideos ar gyfer cystadleuaeth Bylbcast.

Bydd angen i ddisgyblion blannu eu bylbiau ac atodi'r label y maent wedi'i baratoi i'w helpu i adnabod eu pot. Bydd angen i chi gael compost cyffredinol, di-fawn yn barod ar gyfer y gweithgaredd hwn. Nid oes angen tywelion na rhawiau. Trafodwch reolau diogelwch gyda'r dosbarth cyn plannu.

Cyflwyniad: Plannu eich bylbiau

Ysgol San Sior

Ysgol Gavinburn