Ein datganiad i'r ymgyrch Black Lives Matter

Arwydd o Orymdaith y Menywod a gynhaliwyd yng Nghaerdydd mewn ymateb i urddo Donald Trump, yr arlywydd UDA, Ionawr 2017.

Rydym yn credu y dylai diwylliant fod yn berthnasol, ac o fewn cyrraedd i bawb. Gan gydweithio â chymunedau ym mhob cwr o Gymru, mae rhagor i’w wneud er mwyn cyrraedd y nod hwn.

Rydym yn gofalu am dros 5 miliwn o wrthrychau yn ein saith amgueddfa a’n canolfan gasgliadau, ond gwyddom nad yw hyn o fewn cyrraedd i bob cymuned yng Nghymru. Nid yw pawb chwaith yn teimlo fod Amgueddfa Cymru yn lle iddyn nhw oherwydd nad yw’r amgueddfeydd a’r casgliadau yn eu cynrychioli. Rydym yn cydnabod nad yw ein casgliadau, ein horielau a’n rhaglenni addysg yn rhoi darlun teg o holl hanesion Cymru.

Rydym am estyn llaw, a rhoi’r cyfle i bob cymuned yng Nghymru ddatblygu perthynas newydd a gwahanol ag Amgueddfa Cymru – o fewn pedair wal ac ar-lein. Er mwyn cyrraedd y nod, bydd pobl Cymru yn greiddiol i greu ein casgliadau heddiw ac yn y dyfodol; ein cyfrifodeb yw dysgu gan gymunedau ym mhob cwr o Gymru a gwrando ar leisiau amrywiol.

Black Lives Matter

Mae mudiad Black Lives Matter wedi peri i nifer o sefydliadau roi ystyriaeth ddwys i’w rôl yn herio hiliaeth. O ganlyniad rydym wedi datblygu gwell dealltwriaeth o'r rôl y gall Amgueddfa Cymru ei chwarae i sicrhau cydraddoldeb hiliol yng Nghymru.

Mae casgliadau amgueddfa yn aml wedi’u gwreiddio mewn trefedigaethu a hiliaeth, ac mae’r un peth yn wir am Amgueddfa Cymru.

Megis dechrau ydyn ni, ond drwy gydweithio gyda phartneriaid cymunedol a phobl ifanc, rydym wedi dechrau ehangu ein casgliadau, cynyddu cynrychiolaeth,a chyfrannu at drafodaethau am ddad-drefedigaethu, cydraddoldeb a hiliaeth, a byddwn yn dal ati.

Rydym yn gweithio i adeiladu sector amgueddfa sy’n sefyll dros gydraddoldeb, hawliau dynol ac yn erbyn hiliaeth. Mae gennym ran i’w chwarae wrth yrru newid, drwy gydweithio â chymunedau a phartneriaid yng Nghymru a gwrthwynebu hiliaeth ym mhopeth a wnawn.