Gwirfoddoli Unigol
Cyfleon Cyfredol
Gall gwirfoddolwyr wneud cyfraniad gwerthfawr i Amgueddfa Cymru a chyfrannu at bob math o brojectau mewn wyth lleoliad ar draws Cymru. Gallwch chi daflu goleuni newydd ar ein casgliadau, ein helpu gyda gweithgareddau addysg neu i adeiladu rhai o’r adeiladau hanesyddol hyd yn oed. Dewch i gymryd rhan! Dewch i gyfrannu!
Gofynnwn i bawb sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli yn Amgueddfa Cymru i gofrestru eu diddordeb drwy lenwi Ffurflen Gofrestru (wedi ei hatodi) ar gyfer rôl wirfoddol benodol. Mae hyd pob rôl wirfoddol yn amrywio a bydd y Daflen Wybodaeth yn manylu ar hyn. Da fyddai cofio hefyd y gall y rolau yma gael eu hysbysebu gyda dyddiad cau neu fod yn agored tan i bob lle gael ei lenwi.
Does dim cyfleoedd ar hyn o bryd. Beth am gofrestru i dderbyn ein rhestr bostio i glywed y diweddaraf am gyfleoedd newydd? Neu gallwch chi ein dilyn ar X (Twitter) neu Facebook!.