Arddangosfa:Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes
Ym 1948 cyrhaeddodd yr Empire Windrush ddociau Tilbury yn Essex, yn cario dros 1,000 o deithwyr o Ynysoedd y Caribî. Roedd y bobl hyn wedi gadael teulu a ffrindiau er mwyn ateb galwad Prydain am weithwyr wedi’r rhyfel. Dros y 40 mlynedd nesaf, dilynodd miloedd o bobl eraill ôl eu traed, ac fe wnaeth llawer ohonynt ymgartrefu yng Nghymru.
Roedd hanes cenhedlaeth Windrush yng Nghymru yn destun project hanes llafar diweddar, a gynhaliwyd gan Race Council Cymru a’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Ar gyfer y project bu aelodau o Genhedlaeth Windrush Cymru o bob cwr o’r wlad yn rhannu eu straeon am fudo a’u hatgofion o greu bywyd newydd yng Nghymru.
Mae’r arddangosfa bwerus yn cynnwys straeon dros 40 o Genhedlaeth Windrush Cymru, yn eu geiriau eu hunain. Cewch ddysgu am hanes eu teithiau i Gymru, a’r heriau o fyw mewn gwlad mor bell – fel dod o hyd i waith ac agweddau pobl tuag atynt.
Mae’r hanesion yn dangos sut mae Cenhedlaeth Windrush Cymru a’u disgynyddion wedi gwneud eu marc ym mhob agwedd o fywyd Cymru: trwy eu swyddi a’u gyrfaoedd, trwy fagu plant, a thrwy gyfrannu at ein cymunedau a’n diwylliant.
Caiff Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes ei gyflwyno gan Race Council Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, Canolfan y Mileniwm, Casgliad y Werin Cymru, Hynafiaid Windrush Cymru, a Hanes Pobl Dduon Cymru 365. Gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Choleg Gŵyr Abertawe.
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Tachwedd 2024-31 Rhagfyr 2024
Ar agor yn ddyddiol (arwahan i Nadolig a’r Flwyddyn Newydd) 9.30am-4pm.
Mynediad olaf: 3pm .
Teithiau danddaearol: 10am-3pm.
Nadolig a’r Flwyddyn Newydd 2024/25
23 Rhagfyr o 1pm: AR GAU
24-26 Rhagfyr: AR GAU
1 Ionawr: AR GAU
2 Ionawr-30 Ionawr 2025
Open daily 9.30am-4pm.
Mynediad olaf: 3pm.
Teithiau danddaearol: 10am-3pm ar gael yn UNIG ar 4, 5, 18 a 19 Ionawr 2025.
31 Ionawr 2025
Bydd yr amgueddfa AR GAU ar gyfer hyfforddiant staff.
1 Chwefror 2025-Tachwedd 2025
Ar agor yn ddyddiol 9.30am-5pm,
Mynediad olaf: 4pm.
Mynediad olaf: 4pm.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.
Parcio
Os ydych yn cyrraedd mewn car bydd angen i chi dalu wrth gyrraedd. £5 y diwrnod. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein siop goffi bellach yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleLleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd