Digwyddiad: Pen-blwydd Big Pit yn 40

Dewch draw i ddathlu, wrth i ni hel atgofion ac edrych ymlaen at y 40 mlynedd nesaf yn Big Pit.
Mwynhewch berfformiadau gan y band roc lleol Full Dark, No Stars, Côr Meibion Beaufort a Grŵp Pontio Cenedlaethau Blaenafon, marchnad fwyd, crefftau ac anrhegion arbenigol gan Green Top Events, gweithgareddau crefft i blant, areithiau... a chacen ben-blwydd wrth gwrs!
Rhaglen:
10am-4pm – Marchnad fwyd, crefftau ac anrhegion arbenigo
10am-4pm – Gweithgareddau crefft i blant,
12pm-12.20pm – Areithiau agoriadol – Dai Price, Pennaeth Amgueuddfa Big Pit a Janice Lane Cyfarwyddwr Datblygu Orielau a Phrofiad Ymwelwyr
12.30pm-1.15pm – Perfformiad: Full Dark No Stars
1.20pm-1.30pm – Sgwrs: Ceri Thompson - Curadur Big Pit
1.35pm-1.45pm – Perfformiad: Grŵp Pontio Cenedlaethau Blaenafon
1.50pm-1.55pm – Torri Cacen Penblwydd
2.15pm-3pm – Perfformiad: Côr Meibion Beaufort
3.05pm-3.25pm – Sgwrs: Sian James – Cyn AS Dwyrain Abertawe
3.30pm-4.15pm – Perfformiad: Full Dark, No Stars
4.20pm-4.30pm – Areithiau cloi
*Gall yr amseroedd newid