Digwyddiad:Teithiau Tanddaearol Cyfeillgar i Bobl â Dementia

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Wedi'i Orffen

Te a sgwrs gyda’r tywysydd ac yna taith danddaearol hamddenol gyda chefnogaeth.

Yn addas i bobl â Dementia a'u gofalwyr.

Rhaid archebu ymlaen llaw.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl:

Croeso i Big Pit 1.30pm

Byddwn yn cwrdd ger prif fynedfa Big Pit ac yn mynd draw i’r adeilad adnoddau.

Cwrdd â’r Glöwr 1.40pm

Te, coffi a bisgedi, a chyfle i ddod i nabod eich tywysydd tanddaearol. 

Paratoi Pen y Pwll 2pm

Draw â chi i’r ardal lle mae’r daith danddaearol yn dechrau. Dyma lle byddwn chi'n cael y cit a’r offer diogelwch er mwyn mynd dan y ddaear. Helmed, lamp, belt gyda hunanachubwr (masg nwy). Mae’r cyfarpar yn pwyso tua 2 kg (4.5 pwys).

Taith Danddaearol 

Bydd eich tywysydd yn mynd â chi 90 medr (300 troedfedd) dan y ddaear i weld lle bu’r glowyr yn cloddio’r glo wnaeth yrru’r chwyldro diwydiannol. Bydd eich tywysydd yn adrodd straeon am ei amser yn gweithio dan ddaear. Mae’r daith fel arfer yn para rhyw 45 munud, ond gallwn addasu hyn yn dibynnu ar anghenion eich grŵp.

Diweddglo 3pm

Yn ôl i’r ystafell gyfarfod i nôl eich heiddo a sgwrsio am eich profiad tanddaearol cyn gadael.             

Gwybodaeth ddefnyddiol

Mae toiledau a thoiledau anabl ar gael yn yr adeilad adnoddau.

Mae parcio anabl am ddim. Os nad oes gennych fathodyn glas ond eich bod yn gwmni i rywun sydd â dementia, rhowch wybod i ni a gallwch chi barcio am ddim hefyd

I archebu lle galwch: 02920 573650 neu e-bost bigpit@amgueddfacymru.ac.uk 

Am mwy o wybodaeth galwch: Sharon Ford 02920 573681 neu e-bost sharon.ford@amgueddfacymru.ac.uk 

Gwybodaeth

8 Medi a 6 Hydref 2025, 1.30pm-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb sydd wedi’u heffeithio gan ddementia
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Mwy o gynnwys

Oedrannau: Addas i bawb

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau