Digwyddiad:Amser Stori gyda Siôn Corn

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Wedi'i Orffen
Bydd Siôn Corn a’i Gorachod yn brysur â Big Pit eleni!

Bydd croeso cynnes i'ch plant ddod i mewn i’n bwthyn clyd ar gyfer stori a adroddir gan Siôn Corn. 

Bydd pob plentyn yn derbyn anrheg a bydd cyfle i chi dynnu lluniau. 

Ar ôl ymweld â Siôn Corn, cewch fwynhau gwneud crefftau Nadoligaidd (yn rhan o bris eich tocyn).

Mae tocynnau ar gael i brynu wrth gyrraedd.

Gwybodaeth Bwysig:

Mae angen tocyn ar gyfer pob plentyn sy’n cymryd rhan.

Oherwydd prinder lle, dim ond un berson na fydd yn cymryd rhan gaiff fod efo pob plentyn sy’n cymryd rhan. 

Mae pobl nad ydynt yn cymryd rhan yn cynnwys gofalwyr, oedolion a phobl hŷn.

Nid oes angen tocyn ar bobl nad ydynt yn cymryd rhan ond ni fyddant yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft ac ni fyddant yn derbyn anrheg gan Siôn Corn.

Dylai deiliaid tocynnau gyrraedd yn brydlon a dim mwy na 15 munud cyn amser cychwyn eu sesiwn. 

Caniatewch hyd at 15 munud i gerdded o faes parcio/prif adeilad yr Amgueddfa.

Nid yw pris eich tocyn yn cynnwys parcio. 

Codir tâl o £5 y diwrnod am barcio.

Mae’r digwyddiad a’i weithgareddau wedi eu cynllunio ar gyfer plant 3+ oed. 

Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn, bob amser.

Rhaid gadael pramiau y tu allan.

Cŵn tywys yn unig ar gyfer y digwyddiad hwn.

Gostyngiad o 10% i Aelodau, dewch yn aelod heddiw

Elusen yw Amgueddfa Cymru. Mae popeth a brynwch yn ein siopau a phob rhodd a roddwch, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei fwynhau.

Mae rhaglen digwyddiadau Nadolig Amgueddfa Cymru wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr People’s Postcode Lottery.  

Gwybodaeth

13 a 14 Rhagfyr 2025, 10:45 - 16:30
Pris 10.00
Addasrwydd Teuluoedd
Amser Story gyda Siôn Corn

Amser Story gyda Siôn Corn 

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau